Prifysgol Abertawe i gynnal dathliad ymchwil ôl-raddedig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal Arddangosfa Ymchwil Ôl-raddedig blynyddol cyntaf ar ddydd Mercher, 16 Mai.

Bydd y digwyddiad yn ddathliad o’r holl ymchwil amrywiol a chyffrous sydd yn cael ei wneud gan fyfyrwyr y Brifysgol. Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o 11am tan 4pm.

3MT postgraduate research

Yn ystod yr arddangosfa, mi fydd, Thesis Tair Munud, yn cael ei chynnal, lle fydd dau fyfyriwr o bob un o’r saith coleg yn y Brifysgol yn rhoi cyflwyniad angerddol tair munud o’i thesis ôl-raddedig.

Bydd yna hefyd gyfle i fyfyriwr ennill gwobrau yn y Gystadleuaeth Poster, lle fydd pum myfyriwr yn cyflwyno ei phosteri i banel barnu.

Mae croeso i bawb fynychu'r Gystadleuaeth Thesis Tair Munud a’r Gystadleuaeth Poster sydd yn gyfle gwych i chi ddysgu am yr ymchwil cyffrous sydd yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe. Ymhlith y pynciau trafod yn y gystadleuaeth Thesis Tair Munud bydd:

  • Celfyddwaith J.K. Rowling, yn canolbwyntio ar Harry Potter a’i hysbrydoliaeth lenyddol hi gan John Granger.
  • Esblygiad datganoli: dylanwad datganoli cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru gan Joe Janes.
  • Ymddiriedaeth dwyllodrus ym meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein. Defnyddio seicoleg i edrych ar logiau sgwrsio a deall rôl ymddiriedaeth dwyllodrus ar-lein gan Laura Broome.
  • Defnyddio traciwr gweithgarwch i alluogi'r rheini sydd â ffibrosis cystig i fonitro eu gweithgareddau corfforol ag i wella eu symptomau gan Mayara Silveira Bianchim.
  • Effaith polisi Llywodraeth Cymru a mudo ar entrepreneuriaeth yng Nghymru gan Daniel Roberts.
  • Cytundeb masnach rad rhwng y DU a Tsiena. Yn sgil Brexit, mae’r ymchwil yma yn edrych ar werth cael Tsiena fel partner masnach rad i’r DU gan Cherry Chen.

Bydd y dydd yn dod i ben gyda Seremoni Wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal gan Uwch-Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Hilary Lappin-Scott, lle chaiff cyraeddiadau anhygoel myfyriwr ôl-raddedig y Brifysgol ei adnabod a bydd enillwyr y gystadleuaeth thesis tair munud a’r gystadleuaeth poster yn cael eu cydnabod.

Meddai Chloe Robinson o’r Adran Biowyddorau sydd wedi cyrraedd ffeinal y gystadleuaeth Thesis Tair Munud:

“Mae’r gystadleuaeth thesis tair munud yn blatfform gwych i mi rannu fy ymchwil. Rwy’n hynod o gyffrous i fod yn y ffeinal. Rwy’n gobeithio gallaf ddiddori cymaint o bobl a phosib gyda fy ymchwil ym maes geneteg.”

Dywedodd Pamela Styles, Uwch Swyddog Ymchwil Ôl-raddedig, Prifysgol Abertawe:

“Rwy’n hynod o falch i fod yn rhan o Arddangosfa Ymchwil Ôl-raddedig cyntaf Prifysgol Abertawe. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda’r myfyriwr a chlywed ei chyflwyniadau thesis  tair munud, rwy wedi synnu ar ba mor dda yw ei gwaith a’r gwahanol ymchwil sydd yn cael ei chynnal yn y Brifysgol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i glywed eu cyflwyniadau theses tair munud ac yn falch iawn fod gennym ni'r cyfle yma i ddathlu cyraeddiadau anhygoel ein myfyrwyr ôl-raddedig.”