Prifysgol Abertawe i gynnal cynhadledd Astudiaethau Celtaidd nodedig

Mi fydd Prifysgol Abertawe yn cynnal cynhadledd CLARSACH rhwng 12-14 Medi, lle fydd cyfle i ôl-raddedigion sy’n astudio Astudiaethau Celtaidd ledled y Deyrnas Gyfunol ddod at ei gilydd i drafod eu gwaith a’u diwylliant.

Rhedir CLARSACH gan Gonsortiwm Celtaidd o sefydliadau a noddir gan yr AHRC (Arts and Humanities Research Council). Mae’r consortiwm yn cynnwys 13 o sefydliadau: Prifysgolion Aberdeen, Bangor, Caergrawnt, Caeredin, Glasgow, Rhydychen, Abertawe, Queens Belfast, Ulster, Highlands and Islands/ Sabhal Mòr Ostaig, Y Drindod Dewi Sant, a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd, Aberystwyth.

Fel rhan o’r gynhadledd, cynhelir talwrn agored yng Nghanolfan Celfyddyfau Taliesin am 7pm nos Fercher 12 Medi, a’r Meuryn fydd y Prifardd Tudur Dylan Jones. 

Tudur HallamAm 5.15pm ddydd Iau 13 Medi, bydd digwyddiad i ddathlu cynnyrch Yr Esboniadur Beirniadaeth a Theori  yng nghwmni dau o arweinwyr y prosiect, Dr Simon Brooks (Academi Morgan) a Robert Rhys (Adran y Gymraeg) yn ar lawr gwaelod y Taliesin. Adnodd amlddisgyblaethol, agored ac ar-lein, a grëwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw’r Esboniadur. Mae’r cofnodion yn gronfeydd o wybodaeth safonol, wedi’u llunio gan ddarlithwyr neu ôl-raddedigion y Coleg er mwyn hwyluso gwaith ymchwil gan fyfyrwyr. Darperir lluniaeth ysgafn ac mae croeso i bawb.

Meddai’r Athro Tudur Hallam o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe: “Mae CLARSACH yn ysgol ymchwil unigryw i fyfyrwyr ymchwil y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Bydd yma fwrlwm trafod, rhannu posteri ymchwil, talwrn, cerddoriaeth werin a chyfle i wrando ar arbenigwyr ym maes iaith, diwylliant ac ymgyrchu ieithyddol. Byddwn yn cynnal sesiwn Pawb a’i Farn, yn lansio prosiect Yr Esboniadur, ac yn croesawu nifer o siaradwyr gwadd, gan gynnwys y Prifardd Christine James a’r Dr Heini Gruffudd. Bydd yn gyfle i gymharu cyd-destunau’r ieithoedd Celtaidd a’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud yn y maes hwn mewn tri ar ddeg o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.”