Prifysgol Abertawe ar chwe rhestr fer ar gyfer gwobrau Whatuni, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Whatuni eleni, gan gynnwys categori Prifysgol y Flwyddyn.

Whatuni 2018Bellach yn eu pumed blwyddyn, mae tablau cynghrair myfyrwyr Whatuni wedi eu seilio ar filoedd o adolygiadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr ac a gyhoeddwyd ar Whatuni.com.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Prifysgol y Flwyddyn bob blwyddyn ers sefydlu’r gwobrau, a chipiwyd y teitl yn 2014.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ei chynnwys ar y rhestr fer yn y categorïau canlynol:

• Prifysgol y Flwyddyn

• Clybiau a Chymdeithasau

• Cyrsiau a Darlithwyr

• Rhoi yn Ôl

• Rhyngwladol

• Ôl-raddedig

Croesawodd yr Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch-ddirprwy Is-ganghellor, y newyddion: "Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn am y pumed flwyddyn yn olynol, ar ôl cipio’r teitl unwaith o'r blaen.

"Mae'r ffaith ein bod ni wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn, Clybiau a Chymdeithasau, a Chyrsiau a Darlithwyr yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu profiad dysgu ysbrydoledig, gan ddarparu rhagoriaeth addysgu, a chyflwyno profiad unigryw gall pob un o'n myfyrwyr mwynhau.

"Rydym yn ddiolchgar i'r myfyrwyr a gyflwynodd adolygiadau cadarnhaol o'u profiad yn Abertawe, ac i'r staff ar draws y Brifysgol sy'n gweithio mor galed i sicrhau bod profiad ein myfyrwyr yn Abertawe heb ei ail".

Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ar 19 Ebrill 2018 a gyflwynir gan y comedïwr, Katherine Ryan.