MONITOR i wella dibynadwyedd llafnau ynni’r llanw

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Caiff prosiect Ardal yr Iwerydd Interreg newydd ei lansio’n swyddogol yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Ynni’r Môr (ICOE) ym mis Mehefin 2018. Bydd y prosiect yn archwilio’r grymoedd sydd ar waith mewn perthynas â llafnau a strwythurau trawsnewidyddion ynni’r llanw (TECau) a’u heffaith ar ddibynadwyedd.

Prifysgol Abertawe sy’n arwain prosiect MONITOR ac mae’n dod â Chanolfan Ynni Morol Ewrop (EMEC), y Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr, Magallanes Renovables S.L., Région Normandie, SABELLA S.A.S., Universidade do Algarve, Université Le Havre Normandie a Choleg Prifysgol Corc ynghyd.

I ddechrau’r prosiect, bydd consortiwm MONITOR yn cynnal Fforwm i Ddatblygwyr o 13:00-15:00 ar 13eg Mehefin 2018, yn y Custom Room, Centre des Congrès yn ICOE, yn Cherbourg, Ffrainc.

Nod y Fforwm yw cyflwyno datblygwyr ynni’r llanw a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i’r prosiect, a derbyn adborth ar bryderon a blaenoriaethau penodol ynghylch dibynadwyedd ym maes ynni’r llanw i helpu wrth lunio methodolegau’r prosiect.

Bydd y Fforwm yn cynnwys diweddariadau gan y datblygwyr Magallanes Renovables a SABELLA, yn ogystal â thrafodaeth ynghylch modelu cyfrifiadurol, yn y labordy ac ar y môr, ac effaith methodoleg Dull Amrywio a Dadansoddi Effaith (VMEA).

Nod MONITOR yw lleihau’r perygl y bydd technolegau ynni’r llanw’n methu, a’u gwneud yn fwy dibynadwy, a fydd yn arwain at ragor o fuddsoddi ym maes diwydiant ynni morol gan y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Drwy ymgysylltu â’r diwydiant o ddechrau’r prosiect, bydd MONITOR yn sicrhau bod ei waith yn berthnasol a’i fod yn ymateb i bryderon go iawn mewn perthynas â dibynadwyedd.

Bydd prosiect MONITOR yn rhedeg tan 2021 a chaiff y canfyddiadau eu lledaenu mewn amrywiaeth o weithdai i ddatblygwyr a’r diwydiant ehangach.   

Ebsonia Michael Togneri, Prifysgol Abertawe, un o brif bartneriaid y prosiect:

“Mae arfordir yr Iwerydd yn Ewrop yn un o’r ardaloedd mwyaf  addawol yn y byd ar gyfer datblygu ynni ffrwd llanw. Fodd bynnag, er bod y diwydiant yn cyflym ennill profiad mewn defnyddio tyrbinau unigol a ffermydd peilot, mae prinder data ynghylch dibynadwyedd dyfeisiau’n cyfyngu hyder buddsoddwyr ac yn ei gwneud yn ddrutach denu buddsoddiadau.

“Yn rhan o brosiect MONITOR caiff ystod eang o ddulliau eu harchwilio gan gynnwys efelychiadau, profion yn y labordy ac ar y môr, gyda’r nod o ddatblygu system fonitro y gellir ei defnyddio gydag unrhyw dyrbin llanw. Yn y pen draw bydd hyn yn lleihau risgiau datblygu, yn gwella dibynadwyedd ac yn lleihau costau ynni.

“I sicrhau y bydd y prosiect yn cyrraedd ei botensial llawn, rydym yn awyddus i weithio’n agos gyda’r diwydiant.” 

Ariannwyd MONITOR drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), yn rhan o brosiect Ardal yr Iwerydd Interreg.