Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael ei dewis fel Canolfan Ragoriaeth Diabetes

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael ei dewis fel Canolfan Ragoriaeth Diabetes gyntaf y DU gan un o gwmnïau mwyaf y sector fferylliaeth.

Mae’r Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd (JCRF) yn yr Ysgol Feddygaeth, mewn cydweithrediad ag Uned Ymchwil Diabetes Cymru, wedi cael ei ddewis gan Rwydwaith Fyd-eang Sanofi i fod yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol newydd.

Menter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yw’r JCRF. Mae Uned Ymchwil Diabetes Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ar ôl gweithio ar sawl astudiaeth glinigol ar gyfer Sanofi, dewiswyd Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi i’r JCRF ddangos dro ar ôl tro ei fod yn gallu darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf. 

300 x 172Dyma ddywedodd yr Athro Steve Bain, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ABMU ar gyfer Ymchwil a Datblygu ac Arweinydd Clinigol Uned Ymchwil Diabetes Cymru:

“Mae gan y JCRF hanes da o ran recriwtio a chadw cleifion. Mae hynny’n hanfodol er mwyn gallu cynnal treialon clinigol yn llwyddiannus. Mae profiad helaeth yr ymchwilwyr yn Uned Ymchwil Diabetes Cymru, ynghyd â’u labordy cydnabyddedig a’u panel cyfeirio cyhoeddus, yn golygu bod y gwasanaeth yn un cynhwysfawr ar draws bob maes ymchwil diabetes.

“Edrychwn ymlaen at weithio ar y cyffuriau newydd sy’n barod i gael eu datblygu, gyda’r cwmni fferyllol mawr hwn.”

300 x 239

 

Meddai Victoria DiBiaso, pennaeth byd-eang Strategaeth Gweithredu Clinigol a Chydweithio yn Sanofi:

"Nod y bartneriaeth hon yw rhoi arbenigedd ynghylch ymchwil diabetes ar waith i helpu i gyflymu'r gwaith o gyflawni arbrofion clinigol Safoni

Mae meithrin perthnasoedd â safleoedd ymchwil allweddol, ynghyd â phrofiad ein huned o weithredu yn fyd-eang ac yn y DU ym mhob cam o ddatblygu arbrofion, yn ein helpu i wneud cynnydd ag astudiaethau sy'n ystyrlon o safbwynt meddygol er lles cleifion.”

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Deon yr Ysgol Feddygaeth, fod y cyhoeddiad yn dangos safon uchel y gweithgarwch ym maes diabetes ym Mhrifysgol Abertawe a’r ffordd y mae’r Ysgol Feddygaeth yn gweithio gydag arweinwyr y diwydiant i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu heddiw.

Yn ôl yr Athro Keith Lloyd:  

“Rydyn ni’n gwybod bod diabetes a chyflyrau metabolaidd cysylltiedig yn un o brif achosion afiechyd a marwolaeth cyn pryd ar lefel ranbarthol, genedlaethol – a byd-eang,  ac mae hynny’n rhoi pwysau ariannol anferth ar ein gwasanaethau iechyd.

Dyma Ganolfan Ragoriaeth Diabetes gyntaf Sanofi yn y DU, ac mae hynny o ganlyniad i waith rhagorol parhaus yr Athro Bain a’i dîm yma yn yr Ysgol Feddygaeth ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Bydd y ganolfan yn gweithio ar bob maes ymchwil diabetes i helpu i fynd i’r afael â’r anghenion gofal iechyd a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â diabetes.

Fel un o’r pum ysgol feddygaeth orau yn y DU, rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod y cyfoeth o arbenigedd ym maes diabetes sydd gennym yn yr ysgol yn cael dylanwad ar ymchwil i ddatblygu cyffuriau a thriniaethau newydd, ac yn helpu i uwchsgilio gweithlu ein gwasanaeth iechyd.

Roedden ni’n falch iawn yn ddiweddar o gael lansio ein MSc dysgu o bell gyntaf mewn Ymarfer Diabetes a fydd yn cychwyn ym mis Medi. Bydd y cwrs hwn yn darparu gwybodaeth, sgiliau clinigol a phrofiad lefel uwch i gefnogi staff y gwasanaeth iechyd mewn amgylchedd lle mae gofal diabetes yn dod yn fwy a mwy cymhleth ac i roi sylw i’r lleihad yn nifer y nyrsys arbenigol diabetes (DSN) er gwaethaf y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael diagnosis o ddiabetes yn y DU – rhywbeth yr oedd yr Arolwg o’r Gweithlu DSN gan Diabetes UK yn 2016 yn tynnu sylw ato.

Rydyn ni hefyd yn cael mwy o gydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol, gyda’r Athro David Owens, Arweinydd Retinopatheg Uned Ymchwil Diabetes Cymru, yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal Cleifion 2018 Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae’r gwobrau’n cydnabod gweithgarwch clinigol eithriadol sy’n cyfrannu at ofal rhagorol i gleifion.”

600 x 400

Llun:  Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael ei dewis fel Canolfan Ragoriaeth Diabetes gyntaf y DU: (o'r chwith: Anne Scoggins, Sanofi UK; Hubert Bland, Sanofi UK; Sarah Gibbs, DRU Cymru; Yr Athro Steve Bain, ABMU a Prifysgol Abertawe; Olatunde Falode, Sanofi UK; Kathie Wareham, JCRF, Prifysgol Abertawe; Yr Athro Keith Lloyd, Deon, Ysgol Feddygaeth; Henrik Schou, Sanofi UK; Yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd, ABMU.

Meddai'r Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhan diwydiant mewn cydweithrediad ymchwil rhyngwladol yn holl bwysig er mwyn bodloni’r anghenion clinigol heb eu cyfarfod hyd yn hyn, a chefnogaeth bellach ar gyfer twf yr economi yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r partneriaeth strategol hwn â Sanofi.

Mae’r Cyfleuster Ymchwil Clinigol Cydweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn chwarae rhan bwysig wrth gynyddu cyfleoedd ymchwil i gleifion ymuno mewn astudiaethau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol o safon uchel yn lleol.”