Mae tîm cardiaidd y Brifysgol yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysedd gwaed uchel fel rhan o Fis Mai Mesur

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwilwyr Cardioleg ym Mhrifysgol Abertawe wedi chwarae rhan allweddol i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysedd gwaed uchel drwy nifer o ddigwyddiadau sgrinio lleol i'r cyhoedd fel rhan o Fis Mai Mesur.

Gweithiodd y Brifysgol yn agos gydag Ysbyty Treforys i annog unigolion i reoli eu hiechyd eu hunain, gan gredu y gallai 'gwybod eu rhifau' eu helpu i wneud dewisiadau ffordd o fyw iach.

Y tîm a oedd yn arwain y digwyddiad oedd Dr Emma Rees a Miss Sam Hopkinson o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol; Dr Libby Ellins o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe; a Dr Manju Krishnan, prif feddyg strôc Ysbyty Treforys.

Cynhaliwyd y sgrinio gyda'r cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe, Canolfan Gymunedol Townhill ac Ysbyty Treforys. Roedd modd gwneud hyn yn yr Ysbyty o ganlyniad i'r cydweithio agos â Dr Krishnan.

Bu tîm mawr o fyfyrwyr ffisioleg gardiaidd, myfyrwyr meddygaeth, nyrsys ac ymchwilwyr yn mesur pwysedd gwaed ac yn rhoi cyngor i fwy na 700 o bobl dros bedwar diwrnod – roedd gan oddeutu un o bob 10 o bobl bwysedd gwaed uchel nad oeddent yn ymwybodol ohono.

Roedd y digwyddiadau hyn yn rhan o Fis Mai Mesur, sef astudiaeth ymchwil ac ymgyrch ryngwladol sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cyflwr a sgrinio miliwn o bobl yn 2018.

Mae pobl â phwysedd gwaed uchel yn aml yn asymptomatig ac mae'r cyflwr yn cynyddu'r risg o drawiad ar y galon a strôc yn sylweddol, gyda 10 miliwn o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd pwysedd gwaed uchel.

600 x 356

Dywedodd Dr Emma Rees, Gwyddonydd Clinigol yn Academi Iechyd a Lles Prifysgol Abertawe:

"Mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond rydym yn gwybod bod llawer mwy i hyn nag y gwelir. I gynyddu'r effaith ar iechyd yn lleol, mae angen i ni ledaenu'r neges yn ehangach.

"Mae llawer o bobl yn dioddef pwysedd gwaed uchel heb deimlo'n dost, a po hiraf na chaiff ei drin, y mwyaf tebygol y caiff y galon a'r rhydwelïau eu niweidio.

"Yn y gymdeithas fodern, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod y dylent gynnal pwysau iach, gwneud ymarfer corff a pheidio â smygu, ond dyw pawb ddim yn gwneud dewisiadau iach.

"I rai, gallai cael tystiolaeth o effaith eu dewisiadau ar bwysedd gwaed eu hannog i newid."

Dywedodd Dr Manju Krishnan, Meddyg Strôc Ymgynghorol yn Ysbyty Treforys:

"Gwyddom fod pwysedd gwaed uchel yn un o'r ffactorau risg allweddol o ran strociau a strociau bach, a bod llawer o gleifion heb gael diagnosis o bwysedd gwaed uchel pan ddônt i'r ysbyty ar ôl strôc neu TIA.

"Gall cydnabod a rheoli pwysedd gwaed uchel yn gynnar leihau'r risgiau o gymhlethdodau fasgwlaidd, megis strôc a thrawiad ar y galon."

Ychwanegodd Christine Morrell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwyddor Iechyd a Therapïau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg:

"Mae'r prosiect hwn yn dangos y cydweithio agos rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Abertawe.

"Mae gweithio gyda'n gilydd ar y fenter iechyd y cyhoedd hon wedi galluogi i ni gyrraedd mwy o bobl ac i ddefnyddio sgiliau ein staff a'n myfyrwyr i amlygu pwysigrwydd gwirio pwysedd gwaed."