Mae Pint of Science yn mynd â gwyddonwyr allan o'r labordy ac i mewn i'ch tafarn leol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Am y TRO CYNTAF, bydd gŵyl Pint of Science yn dod i Abertawe yn 2018! Tri lleoliad, tair noson, a sgyrsiau gwefreiddiol gan wyddonwyr disglair lleol (bob un â pheint yn ei law wrth gwrs!) Atomau, galaethau a phob math o bethau eraill! I gyd yn eich tafarn leol!

  • Ewch i lawr i'ch tafarn leol i glywed sgyrsiau am bob math o bethau, o ysgogi'r ymennydd i sêr sy'n ffrwydro
  • Bydd mwy na 25 o wyddonwyr yn siarad mewn tafarndai yn y ddinas pan ddaw gŵyl sgyrsiau gwyddonol fwyaf y byd i Abertawe
  • Bydd Abertawe'n ymuno â bron 300 o ddinasoedd yn fyd-eang yn yr ŵyl ryngwladol hon rhwng 14 a 16 Mai
  •  Bydd tocynnau ar werth o 9 Ebrill yn

Dydd Llun 9 Ebrill 2018: Bydd tocynnau ar werth heddiw am ŵyl sgyrsiau gwyddonol fwyaf y byd, pan fydd dros 25 o wyddonwyr yn traethu mewn tafarndai ledled Abertawe.

Yn ystod yr ŵyl dridiau, Pint of Science, bydd miloedd o wyddonwyr ledled y byd yn siarad am eu hymchwil. Mewn bron 300 o ddinasoedd, mewn 21 o wledydd, caiff aelodau'r cyhoedd gyfle i ofyn cwestiynau iddynt. Mae'r ŵyl yn dod â rhaglen unigryw o sgyrsiau, arddangosiadau ac arbrofion byw i dafarndai mwyaf poblogaidd y wlad.
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n siarad am amrywiaeth o bynciau mewn tafarndai ledled y ddinas, gan gynnwys No Sign Bar (yn y seler) a Brewstone & Copper. Bydd tocynnau ar werth am £4 y noson o wefan Pint of Science (pintofscience.co.uk). Bydd cynulleidfaoedd yn Abertawe'n mwynhau amrywiaeth o sgyrsiau cyffrous, gan gynnwys:

'Oes modd adeiladu cyfrifiadur o grancod?' Bydd Dr James Stovold yn cyflwyno byd cyfrifiadura naturiol, lle mae ymchwilwyr yn adeiladu cyfrifiaduron o bob math o bethau!

'BRYCH!' Gall iechyd y fam effeithio ar weithgarwch y brych ond, fel y bydd yr Athro Cathy Thornton yn ei esbonio, gall y brych effeithio ar iechyd a lles y fam hefyd!

'Yn eich wyneb!' A ddylem barnu llyfr yn ôl ei glawr? Bydd Dr Alex Jones yn archwilio sut mae ein hwynebau'n datgelu mwy amdanom nag efallai rydym yn ymwybodol ohono.

Ochr yn ochr â'r prif sgyrsiau, bydd pob noson hefyd yn cynnig dewis o weithgareddau wedi'u hysbrydoli gan wyddoniaeth, gan gynnwys arbrofion byw, cwisiau, storïau difyr, trafodaethau panel a gweithdai.

"Rydym yn llawn cyffro bod Pint of Science yn dod i Abertawe am y tro cyntaf eleni! Mae'n ffordd wych o hyrwyddo'r ymchwil tra diddorol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n gyfle i'r cyhoedd drafod yr ymchwil gyda'r arbenigwyr a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt" meddai'r cydlynydd yn Abertawe, Dr Sophia Komninou. "Mae'r ffaith bod popeth yn digwydd mewn tafarn yn golygu y bydd yr awyrgylch yn anffurfiol ac yn gartrefol - dwi'n edrych ymlaen ati'n fawr."

Sefydlwyd Pint of Science chwe blynedd ôl gan grŵp o ymchwilwyr ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol yn y DU ac mae wedi tyfu'n un o'r gwyliau gwyddoniaeth mwyaf yn y byd. Mae'r sefydlwyr, Dr Pravenn Paul a Dr Michael Motskin, wedi dod ag agwedd bersonol i wyddoniaeth, gan roi cyfle i bawb gwrdd â'r bobl tu ôl i'r ymchwil anhygoel sy'n cael ei wneud yn fyd-eang.

"Mae cymaint o ymchwil tra diddorol yn digwydd o dan ein trwynau ond heb i ni wybod amdano" meddai cyd-sefydlydd yr ŵyl, Dr Paul. "Mae perygl y gall rhywfaint ohono gael ei gamddehongli, sy'n arwain at newyddion ffug. Mae Pint of Science yn rhoi cyfle i bobl ddod i gysylltiad uniongyrchol â gwyddonwyr ysbrydoledig, ac mae'n annog trafodaeth agored, yn y lleoliad mwyaf cyfarwydd i bobl Prydain, y dafarn! Mae gwyddonwyr yn hoff o beint hefyd - dydyn nhw ddim mor wahanol â hynny!"

"Mae'n wych gweld y brwdfrydedd hwn am wybodaeth yn cael ei rhannu ledled y byd - eleni, bydd Pint of Science yn cael ei chynnal mewn bron 300 o ddinasoedd ac 21 o wledydd!"