Mae digwyddiad rhwydwaith LINK wedi ei drefnu ar gyfer Ebrill 10

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwahoddir unigolion o sefydliadau sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector i fynychu lansiad swyddogol Prifysgol Abertawe: LINK ar Gampws y Bae ar ddydd Mawrth, 10 Ebrill.

Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i gyflogwyr gysylltu ag eraill a gwneud defnydd o’r adnoddau a’r arbenigedd i’ch helpu gyda’ch twf sefydliadol.

Yn ogystal â darganfod sut gallwch fanteisio ar ffrydiau cyllid a rhaglenni cymorth busnes a ariennir yn rhannol sydd ar gael ar hyn o bryd, bydd y rhwydwaith hefyd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu cydweithrediadau cynhyrchiol ag aelodau DOLEN Prifysgol Abertawe.

Wrth siarad am y fenter newydd, DOLEN Prifysgol Abertawe, meddai Ceri D Jones: "Rydym yn angerddol am gydweithio â sefydliadau o bob lliw a llun, er mwyn sbarduno twf economaidd, meithrin ffyniant, cyfoethogi'r gymuned leol a diwylliant Cymru ac er mwyn cyfrannu at iechyd a lles ein dinasyddion. 

Drwy gydweithio a rhannu ein hadnoddau, gallwn weithio'n gyflymach, yn graffach ac yn well ac, yn y pen draw, gallwn dyfu a ffynnu fel rhanbarth cystadleuol iawn.

Yn ystod y digwyddiad lansio, byddwch  yn clywed gan Innovate UK am ffrydiau cyllid Llywodraeth y DU ac yn dysgu am yr amrywiaeth eang o wasanaethau a chymorth mae'r Brifysgol yn eu cynnig i sefydliadau yn ne Cymru."

600 x 211