Hwb o £1.4m gan yr UE i gynyddu sgiliau yn y sector gweithgynhyrchu uwch

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford £1.4m o gyllid ychwanegol gan yr UE i helpu mwy o weithwyryn y sector gweithgynhyrchu uwch i ennill sgiliau er mwyn arwain economi Cymru sy’n gallu gystadlu'n fyd-eang.

Mae’r cynllun Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL), yn helpu i ddatblygu sgiliau, hybu perfformiad a chynhyrchiant i arwain y sector diwydiannol hwn sy'n tyfu.

Bydd y cyllid ychwanegol o £1.4m yn galluogi i'r cynllun helpu dros 400 o bobl i ennill sgiliau technegol mewn sectorau newydd a datblygol, gan gynnwys ynni a phŵer, gweithgynhyrchu clyfar, peirianneg deunyddiau, economi gylchol yn ogystal â thechnoleg cyrydu a haenau. Bydd hefyd yn cefnogi 60 o gwmnïau ychwanegol yn y Gogledd, y Gorllewin a Chymoedd y De.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan weithlu Cymru y sgiliau sydd eu hangen i sbarduno twf a chynhyrchiant.

Mae hyn yn enghraifft arall o ba mor bwysig ydyw i sicrhau bod Cymru yn cael yr un lefel o gyllid ag yr ydyn ni’n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit fel y gall buddsoddiadau yn y dyfodol barhau i gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru.”

Dywedodd Rheolwr Prosiect METaL, Dr Khalil Khan o Brifysgol Abertawe:

“Mae'r arian hwn gan yr Undeb Ewropeaidd yn sicrhau parhad cyfrwng gwych i Brifysgol Abertawe i rannu ei gwybodaeth a'i phrofiad er mwyn cefnogi busnesau Cymru.

“Mae'r arian yn ategu buddsoddiad Llywodraeth Cymru o ran cefnogi busnesau, a bydd y diwydiant yn elwa drwy sicrhau bod ei weithlu yn meddu ar wybodaeth dechnegol gywir i alluogi busnesau Cymru i gystadlu mewn marchnad fyd-eang."

 600 x 480

Llun:  Dur dan y microsgop.  Mae'r Prosiect Metal yn gwneud llawer o waith gyda'r diwydiant dur

Un o'r cwmnïau sydd wedi elwa ar y cynllun METaL yw TATA Steel ym Mhort Talbot. Dyma Reolwr Tân ac Amgylchedd y safle, Andrew Townsend, yn sôn am ei brofiad o'r cynllun.

“Mae cyrsiau METaL wedi helpu cydweithwyr i gael gwell dealltwriaeth o agweddau technegol sy'n gysylltiedig â'u gwaith. Yn benodol, mae'r cwrs materion amgylcheddol wedi helpu pobl i ddeall deddfwriaeth amgylcheddol a materion amgylcheddol sy'n seiliedig ar sector y farchnad a materion byd-eang a lleol."

“Bydd ein gweithwyr yn elwa gan y bydd ganddyn nhw nawr gwell dealltwriaeth o agweddau amgylcheddol ein busnes. Mae o fantais i'r cwmni gael gweithlu sy'n meddu ar fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol gan helpu i wella perfformiad amgylcheddol Tata Steel.”

Nod y cynllun yw cefnogi dros 800 o bobl erbyn y bydd yn dod i ben yn 2022.

Testun uchod - Llywodraeth Cymru