Hillary Clinton yn dychwelyd i Abertawe er mwyn llunio rhaglen ymchwil ar hawliau plant

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dros benwythnos 23 a 24 Mehefin, cynhaliodd yr Ysgrifennydd Hillary Clinton gyfres o gyfarfodydd gweithiol yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, i drafod datblygiad rhaglen waith yr Ysgol ar draws ystod o feysydd.

Canolbwyntiodd y cyfarfodydd ar ysgoloriaethau ymchwil PhD newydd Hillary Rodham Clinton, a fydd yn ceisio gwella dealltwriaeth fyd-eang o'r ffordd orau o wella a hyrwyddo hawliau plant. Disgwylir i'r ysgoloriaethau gael eu dyfarnu dros y flwyddyn nesaf fel y gall ymchwil ddechrau yn y flwyddyn academaidd 2019-2020.

Cyfarfu'r Ysgrifennydd Clinton â staff o Ysgol y Gyfraith ac Academi Morgan i drafod y camau nesaf wrth ddatblygu'r rhaglen ymchwil a'r blaenoriaethau y bydd yn ceisio mynd i'r afael â hwy, o newid hinsawdd ac ymfudiad i derfysgaeth a bygythiadau seibr.

Secretary Hillary Clinton Yn ddiweddarach yn ystod y dydd cymerodd yr Ysgrifennydd Clinton ran mewn sesiwn holi ac ateb gyda staff, myfyrwyr a phartneriaid y Brifysgol, lle ymatebodd i ystod eang o gwestiynau. Cadeiriwyd y sesiwn gan Elin Jones AC, llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd yr Athro Richard B. Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Ar ôl dyfarnu gradd anrhydeddus i’r Ysgrifennydd Clinton y llynedd, mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gynyddu graddfa ein hymchwil a chanolbwynt ein polisi ar y materion sy'n effeithio ar blant ledled y byd”.

Ychwanegodd: “Wrth i ni weithio gyda'r Ysgrifennydd Clinton i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny, ein nod yw cydweithio â phartneriaid rhyngwladol a dod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arbenigwyr rhyngddisgyblaethol gan gynnwys y gyfraith, cyfrifiadureg a dadansoddi data, iechyd a lles. P'un a ydych chi'n academaidd, yn fyfyriwr neu'n bartner cydweithredol, os ydych chi am wneud gwaith sydd ag effaith fyd-eang, Abertawe yw'r lle i fod.

Meddai’r Athro Elwen Evans CF, pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton: "Mae materion hawliau plant yn treiddio i holl brif heriau ein hoes. Mae gan waith ein Harsyllfa ar Hawliau Dynol Plant ran hanfodol i'w chwarae wrth alfanu rhwydwaith byd-eang o sefydliadau a all ddod at ei gilydd i hyrwyddo, diogelu ac ymgorffori'r hawliau hyn a sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed.

Rydym wrth ein bodd bod yr Ysgrifennydd Clinton wedi ymgysylltu'n weithredol â'r Brifysgol a’i bod wedi mynegi diddordeb mewn help i lunio a gyrru gwaith ymchwil Ysgol y Gyfraith, gan gynnwys hawliau plant”.