Enillwyr Cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2018 wedi'i gyhoeddi

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dwy ar bymtheg o ddelweddau syfrdanol a'r straeon tra diddorol y tu hwnt iddynt - megis dadansoddi diet beunyddiol tylluan, breuddwyd am gael y bai ar gam, a sut i wybod pa bysgod yw'r rhai mwyaf cyfrwys - wedi cael eu datgelu heddiw fel enillwyr cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2018.

Yr enillydd cyffredinol yw Crab blood and collaborations”, delwedd ficrosgop o waed cranc, sy'n dangos yr hyn y mae'r ymchwilwyr yn ei ddisgrifio fel "harddwch celloedd gwaed crisialaidd a pharasitiaid gemaidd".

 600 x 449

Llun: "Crab blood and collaborations", enillydd cyffredinol Ymchwil fel Celf 2018

Frances Ratcliffe o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe gyflwynodd y cais buddugol. Mae'n gweithio ar brosiect BlueFish, sef cydweithrediad a ariennir gan yr UE rhwng ymchwilwyr yng Nghymru ac Iwerddon sy'n astudio sut y mae pysgod a physgod cregyn yn ymateb i newid yn yr hinsawdd. Un o'r pynciau sy'n cael ei archwilio gan yr ymchwilwyr yw clefydau sy'n effeithio ar bysgod cregyn a chrancod bwytadwy. 

Mae tîm ymchwil BlueFish hefyd yn cynnwys yr Athro Andrew Rowley, Dr Frederico Batista a Sophie Ellis.

Enillwyr Ymchwil fel Celf 2018 - lluniau 

400 x 533Ymchwil fel Celf yw'r unig gystadleuaeth o'i math;  mae'n agored i ymchwilwyr o bob pwnc ac mae'r pwyslais ar adrodd hanes yr ymchwil, yn ogystal â chreu llun trawiadol.

Mae'r gystadleuaeth yn cynnig cyfle i ymchwilwyr ddangos eu creadigrwydd, ac mae'n dathlu amrywiaeth, harddwch ac effaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe - sydd ymysg y 30 prifysgol orau am ymchwil.

Derbyniwyd y nifer uchaf o geisiadau hyd yma, sef 97, gan ymchwilwyr ar draws holl Golegau'r Brifysgol gyda theitlau megis: 

  • What was for lunch, Archimedes?
  • They don’t care about us
  • I see a green future

Llun:  "End of the Road", Amy Murray

Dewiswyd cyfanswm o 17 enillydd gan banel o feirniaid blaenllaw o'r Sefydliad Brenhinol, Nature a chylchgrawn Research Fortnight. Yn ogystal â'r enillydd cyffredinol, dyfarnwyd pedair gwobr gan y beirniaid, dwy wobr i ymchwilwyr o sefydliadau eraill ac enwyd deg ymgeisydd teilwng. 

FIDEO - Enillwyr Ymchwil fel Celf 2018

Disgrifiodd yr enillydd cyffredinol, Frances Ratcliffe o Brosiect BlueFish, y ddelwedd yn y cais buddugol:

"Mae dechrau PhD yn frawychus ac mae'n golygu fy mod i'n gorfod canolbwyntio ar un pwnc penodol er bod gennyf ddiddordeb mawr mewn sawl pwnc.  Fodd bynnag, oherwydd natur gydweithredol prosiect BlueFish, sef y prosiect yr wyf yn rhan ohono, rwyf yn gallu cadw meddwl agored a pharhau i fod yn chwilfrydig.

Enghraifft o hyn oedd pan ddangosodd Andrew y llun hwn o barasitiaid mewn gwaed cranc i mi. Cefais fy nharo gan harddwch y celloedd gwaed crisialaidd a'r parasitiaid oedd yn debyg i emau, a hefyd gan frwdfrydedd Andrew wrth esbonio bron can ffotograff i mi er gwaethaf y ffaith nad wyf yn un o'i fyfyrwyr ac nid oes angen i mi ddysgu am y maes hwn.

Pan fydd biolegwyr sefydlog yn rhannu eu gwaith ar lefel anffurfiol mae'n ysbrydoli eraill.  Mae'r mentora answyddogol hwn a rhannu angerdd am ymchwil yn bethau sy'n haeddu cael eu dathlu.   Efallai bod modd i gydweithrediad bach, fel y ddelwedd hon, amlygu rôl y cydweithrediadau mwy wrth annog cenhedlaeth newydd o wyddonwyr."

Meddai sylfaenydd a chyfarwyddwr y gystadleuaeth, Yr Athro Richard Johnston, athro mewn gwyddor deunyddiau a pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae Ymchwil fel Celf yn gyfle i ymchwilwyr ddatgelu straeon cudd eu hymchwil i gynulleidfaoedd na fyddent fel arfer yn ymgysylltu â nhw. Gall hyn ddatgelu eu straeon personol, eu dynoliaeth, eu hysbrydoliaeth a'u hemosiynau. 

Gall hefyd fod yn ffordd o gyflwyno eu proses ymchwil a sut brofiad yw bod yn ymchwilydd; mae'n annog deialog ac yn dileu rhwystrau rhwng prifysgolion a'r byd ehangach."

Panel: