Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018: Menywod yn arwain y ffordd ar brosiect adeiladau o bwys

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Wrth i'r byd ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yfory, mae tîm o fenywod o Brifysgol Abertawe, Kier, y penseiri AHR a'r cwmni peirianneg AECOM, yn gosod esiampl drwy chwarae rolau arweiniol ym mhrosesau caffael, dylunio ac adeiladu adeilad newydd ar Gampws y Bae.

Women take the lead on IMPACT 

 

 

 

 

  

 

 

Menywod sy'n cyflawni llawer o'r rolau allweddol wrth gwblhau'r adeilad EFFAITH newydd ar gyfer y Coleg Peirianneg. A thrwy dynnu sylw at eu rolau, maen nhw'n gobeithio helpu i berswadio menywod a merched i ystyried gyrfaoedd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), meysydd lle nad yw menywod a merched wedi'u cynrychioli'n dda.

Mae cyfran eithriadol o uchel o fenywod proffesiynol yn gweithio mewn rolau allweddol ar brosiect adeiladu'r adeilad EFFAITH, gan gynnwys: Rheolwyr Prosiect y Cleient, Academyddion, Penseiri, Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu, Peiriannydd Adeiladu, Rheolwr Adeiladu a Swyddog Cyswllt Cymunedol.

Mae tîm adeiladu Kier yn gweithio'n agos gydag uwch-ddarlithwyr yn y Coleg Peirianneg i drefnu ymweliadau safle i fyfyrwyr, ac i ddatblygu'r cwricwlwm, gan ymgorffori'r adnoddau a ddarperir gan y prosiect.

Meddai Fiona Nixon, Pennaeth Prosiectau a Chynllunio, Prifysgol Abertawe: Dyma rywbeth newydd sbon yn fy ngyrfa yn y diwydiant adeiladu. Rwyf wrth fy modd yn gweld cynifer o fenywod blaenllaw yn eu disgyblaethau'n gweithio ar y prosiect hwn. Mae'n dangos yr amrywiaeth o gyfleoedd yn y diwydiant sydd ar gael i bawb. Mae pob sefydliad sy'n ymwneud â'r prosiect wedi pennu targedau uchel i gynyddu amrywiaeth yn y gweithlu, yn enwedig mewn rolau technegol, ac mae'n wych gweld blynyddoedd o waith caled yn dwyn ffrwyth."

Meddai Amy Griffiths, Rheolwr Safle Adeilad EFFAITH ar gyfer Kier:  "Dwi wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu am dros saith mlynedd ac mae'n wych gweld cynifer o fenywod yn gweithio ar brosiect mor ffantastig.

"Mae Kier yn adnabyddus am recriwtio a hyfforddi menywod ac am gynnig cyfleoedd gyrfaol iddyn nhw mewn adeiladu.

"Mae menywod yn chwarae rôl allweddol yn ein busnes, rhywbeth sy'n amlwg mewn meysydd fel dylunio, peirianneg, syrfewyr meintiau a rolau masnachol ag enwi ychydig yn unig.

Meddai Dr Clare Wood, Uwch-ddarlithydd yn y Coleg Peirianneg: "Mae'r Coleg Peirianneg yn falch ein bod wedi derbyn Gwobr Efydd Athena SWAN am ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mewn Peirianneg Sifil yn enwedig, mae'n gyffrous bod cynifer o fenywod yn arwain y ffordd mewn rolau addysgu, cydweithio â diwydiant a datblygu rhaglenni newydd. Hoffem i fenywod ifanc sy'n ystyried astudio pynciau STEM yn y brifysgol edrych ar Beirianneg Sifil a sylweddoli'r potensial sydd ar gael am yrfa greadigol, ddadansoddol, heriol a gwobrwyol, sy'n gallu newid bywydau, adeiladu cymunedau a gwella ein hamgylchedd.”     

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Clare Wood, Uwch-ddarlithydd, y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe, Amy Griffiths - Rheolwr Safle, Kier, Barbara Sos - Uwch-bensaer, AHR, Penseiri a Phrif Ddylunwyr, Kate Leighton - Cyfarwyddwr Cysylltiol, AECOM, Peiriannydd Adeiladu, Sarah Gealy - Cyfarwyddwr Rhanbarthol, AECOM, Peiriannydd Gwasanaethau Mecanyddol a Thrydanol, Fiona Nixon - Pennaeth Prosiectau a Chynllunio, Prifysgol Abertawe