Dathlu cyflawniadau myfyrwyr yng nghynulliadau graddio’r haf

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr wythnos nesaf, caiff cyflawniadau dros 4,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig eu dathlu yng nghynulliadau graddio Prifysgol Abertawe.

Cynhelir y cynulliadau yn Neuadd Fawr Campws y Bae o ddydd Llun 23 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf.

Bydd teuluoedd a ffrindiau'r myfyrwyr yn bresennol hefyd, yn ogystal â swyddogion y Brifysgol, staff academaidd, cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr a swyddogion a phwysigion dinesig.

Bydd darpar-raddedigion yn derbyn eu graddau o:

  • Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ddydd Llun.
  • Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ac Adran Addysg Barhaus Oedolion ddydd Mawrth.
  • Yr Ysgol Reolaeth ddydd Mercher.
  • Y Coleg Peirianneg ddydd Iau.
  • Y Coleg Gwyddoniaeth ddydd Gwener.
  • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ddydd Sadwrn.

Meddai'r Athro Richard B. Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i'n myfyrwyr sy'n graddio, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

"Mae gennym hanes balch o baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol eithriadol ers 1920. Gobeithio y bydd y graddedigion eleni'n gallu parhau i ymfalchïo ym Mhrifysgol Abertawe, wrth i ni barhau i adeiladu ar lwyddiant ysgubol y blynyddoedd diweddar”.

Mi fydd modd gwylio’r holl seremonïau yn fyw ar ein gwefan. 

Graduation image