Cymru yn sicrhau €4.3m ychwanegol a Phrifysgolion Cymru'n arwain y ffordd ar brosiectau cydweithredol gyda phartneriaid yn Ewrop

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw ei fod yn croesawu'r €4.3m o gyllid yr UE ar gyfer 10 o brosiectau newydd lle bydd Cymru'n gweithio gyda sefydliadau ar draws Ewrop.

Mae'r prosiectau yn cael eu cefnogi drwy raglenni cydweithio tiriogaethol yr UE - amrywiol fentrau cyllido sy'n dod ag arbenigedd o wahanol ranbarthau Ewrop ynghyd i roi sylw i heriau cyffredin a datblygu prosiectau arloesol. 

Mae prifysgolion Cymru yn arwain pedwar o'r prosiectau drwy raglenni Gogledd-orllewin Ewrop ac Ardal yr Iwerydd. 

Bydd prosiect ALG-AD, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn cael dros €1.1m o raglen Gogledd-orllewin Ewrop a €700,000 gan Lywodraeth Cymru. Mae'r prosiect yn defnyddio algâu i ddatblygu technoleg newydd i lanhau gwastraff a thyfu bwyd anifeiliaid a chynhyrchion eraill.  

Prifysgol Abertawe sydd hefyd yn arwain y prosiect MONITOR, sy'n ymchwilio i ddibynadwyaeth troswyr ynni'r llanw. Mae'r prosiect wedi cael cefnogaeth €393,000 o gyllid yr UE o raglen Ardal yr Iwerydd. 

WEFO logoMae'r prosiect USER-FACTOR, sydd wedi cael €376,000 o arian yr UE, yn cael ei arwain gan PDR - ymgynghoriaeth ddylunio sy'n rhan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd yn gweithio gydag asiantaethau dylunio eraill i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd, fel nwyddau i ddefnyddwyr a dyfeisiau meddygol. 

Bydd prosiect NASPA, dan arweiniad Prifysgol Bangor a gyda chyfraniad Emerald Crop Sciences o Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth, yn datblygu cynhyrchion i wella bioamrywiaeth y pridd. Bydd yn manteisio ar €903,000 o gyllid yr UE.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Bydd y pecyn hwn o gyllid yn creu cyfleoedd newydd i brifysgolion, busnesau a sefydliadau arbenigol gydweithio ar draws Ewrop mewn amrywiol feysydd cyffrous, gan gynnwys ynni'r llanw, dyfeisiau meddygol, bwyd a thwristiaeth er mwyn helpu i sicrhau twf a swyddi. 

"Fel cenedl agored, rydyn ni am gynnal ac adeiladu ar ein rhwydweithiau rhyngwladol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, yn arbennig drwy barhau i gymryd rhan mewn rhaglenni cydweithredol. Rwy'n falch iawn o weld prifysgolion Cymru yn arwain gymaint o brosiectau mewn meysydd arloesol."

Gweddill y 10 prosiect yw:

  • Atlantic Food Export, sy'n ceisio gwella cystadleurwydd a chynyddu allforion yn y sector bwyd. BIC Innovation, ymgynghorwyr busnes o Ben-y-bont ar Ogwr yw'r partner yng Nghymru ar gyfer y prosiect hwn, a bydd yn derbyn €189,000 o gyllid yr UE. 
  • BLUEHUMAN, sy'n datblygu biotechnoleg glas ar hyd arfordir yr Iwerydd. Bydd JELLAGEN yn Sir Benfro yn manteisio ar €150,000 o gyllid yr UE.
  • Prosiect COCKLES, sy'n cynnwys Prifysgol Bangor, NERC Bangor a Cyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn helpu i ddatblygu dyframaeth ac adfer cyflenwadau naturiol o gocos. Bydd yn derbyn €475,000 o gyllid yr UE.
  • Prifysgol Abertawe yw partner y prosiect biowyddorau Enhance Micro Algae yng Nghymru, sy'n gweithio ar ddefnydd diwydiannol algâu gyda chefnogaeth €244,280 o gyllid yr UE. 
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc GeoMon ar Ynys Môn yw partneriaid prosiect Atlantic-Geoparks yng Nghymru, a fydd yn cael  €226,000 er mwyn hyrwyddo geodwristiaeth.
  • Gyda'r cynllun ynni cymunedol ECCO bydd cwmni buddiannau cymunedol Cymoedd Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog yn derbyn €273,000 o raglen Gogledd-orllewin Ewrop.