Cymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig 2018: anrhydeddau i academyddion Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi canlyniad Etholiad 2018 am Gymrodyr newydd.

Ymhlith y rhai hynny o Brifysgol Abertawe a enwir gan y Gymdeithas Ddysgedig i'w hanrhydeddu eleni y mae:

  • Yr Athro Kirsti Bohata ~ Cyfarwyddwr CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru); Athro Llenyddiaeth Saesneg
  • Yr Athro Shareen Doak ~ Cadair Bersonol mewn Genotocsicoleg a Chanser
  • Yr Athro Biagio Lucini  ~ Cadair Bersonol ym Mhrifysgol Abertawe; Pennaeth yr Adran Fathemateg
  • Dr Cynfael Lake ~ Darllenydd, Adran y Gymraeg
  • Yr Athro Danny McCarroll ~ Athro Daearyddiaeth
  • Yr Athro John Robert Morgan ~ Athro Emeritws Hanes a Chlasuron
  • Yr Athro Perumal Nithiarasu ~ Deon, Arweinyddiaeth Academaidd, Effaith Ymchwil; Pennaeth, Canolfan Peirianneg Cyfrifiannu ZIenkiewicz
  • Yr Athro Gwynedd Parry ~ Athro’r Gyfraith a Hanes y Gyfraith

Learned Society of Wales

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadlu brwd i ymuno. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.

Erbyn hyn mae gan y Gymdeithas yn agos i 500 o Gymrodyr, yn ddynion a menywod nodedig o bob cangen dysg, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau penodol. Eleni mae 35% o’r Cymrodyr newydd yn fenywod.

Drwy ddod â’r Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn cyfrannu at ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd gan ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i’r Llywodraeth.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: “Rwyf i wrth fy modd yn croesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Mae cael eu hethol yn gydnabyddiaeth o ragoriaeth a chyflawniad. Maen nhw a’u gwaith yn ysbrydoliaeth i’r genedl. Caiff Cymrodyr eu hethol ar sail teilyngdod, ac unwaith eto mae’r nifer o Gymrodyr benywaidd yn cynyddu”.