Cyhoeddi rhestr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae enillwyr Gwobr Ffuglen Menywod Baileys a Gwobr Geoffrey Dearmer ymhlith y 12 llyfr ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas gwerth £30,000 mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Caiff y wobr o £30,000 ei dyfarnu i'r darn gorau o waith wedi'i gyhoeddi'n Saesneg, sydd wedi'i ysgrifennu gan awdur 39 mlwydd oed neu iau.

Lansiwyd y wobr yn 2006, a bwriad y wobr yw cydnabod a chefnogi awduron mawr y dyfodol yn ogystal â chydnabod etifeddiaeth Dylan Thomas, a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'i waith gorau tra yn ei ugeiniau.

Eleni, mae’r rhestr hir yn cynnwys: wyth nofel, dau gasgliad o straeon byrion, a dau gasgliad o farddoniaeth.

Mae’r awdur Kayo Chingonyi o Zambia yn ymuno ag awduron o’r DU, Iwerddon, America, India a Nigeria wrth iddynt gystadlu am y wobr o £30,000.

Y rhest hir:

  • Ayọ̀bámi Adébáyọ̀, Stay With Me (Canongate Books)
  • Kayo Chingonyi, Kumukanda (Vintage - Chatto & Windus)
  • Meena Kandasamy, When I Hit You (Atlantic Books)
  • Lisa McInerney, The Blood Miracles (John Murray)
  • Carmen Maria Machado, Her Body and Other Parties (Graywolf Press)
  • Fiona Mozley, Elmet (JM Originals)
  • Gwendoline Riley, First Love (Granta)
  • Sally Rooney, Conversations With Friends (Faber & Faber)
  • Emily Ruskovich, Idaho (Vintage - Chatto & Windus)
  • Gabriel Tallent, My Absolute Darling (Riverhead Books)
  • Eley Williams, Attrib. and Other Stories (Influx Press)
  • James Womack, On Trust: A Book of Lies (Carcanet Press)

Dylan Thomas Prize 2018 Books

Y llynedd, Fiona McFarlane o Awstralia cipiodd y wobr am ei chasgliad o straeon byrion, The High Places.

Wedi’i gadeirio gan yr Athro Dai Smith, mae’r panel beirniadu’n cynnwys y bardd a’r ysgolhaig Kurt Heinzelman; y nofelydd a’r dramodydd Rachel Trezise, yr awdur a’r dramodydd Paul McVeigh, a’r awdur Namita Gokhale.

Meddai’r Athro Dai Smith: “Mae rhestr hir eleni yn dangos gwreiddioldeb a rhagoriaeth lenyddol y gwaith a gynhyrchir gan ysgrifenwyr ifanc o bob cwr o'r byd. Wrth iddi gynnwys rhyddiaith a barddoniaeth gan awduron newydd a sefydledig, mae hon yn rhestr hir dda a diddorol iawn! Bellach mae gan y beirniaid gwaith anodd iawn, ond gallwn fod yn sicr y bydd gennym restr fer eithriadol o gryf gan chwe awdur dawnus tu hwnt”.

Cyhoeddir rhestr fer y wobr ddiwedd mis Mawrth.

Datgelir enw’r enillydd mewn seremoni arbennig yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ddydd Iau 10 Mai fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai.