Ymchwil yn canfod nad oes risg uwch o dagu i fabanod sy'n eu bwydo eu hunain.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol Abertawe yn dangos nad yw'r risg o dagu'n cynyddu wrth ganiatáu i fabanod mor ifanc â chwe mis eu bwydo eu hunain â bwyd solet, o'i chymharu â'u bwydo â llwy.

Gwnaed yr ymchwil gan Dr Amy Brown, Athro Cysylltiol mewn Iechyd Cyhoeddus Plant, ac ymchwilydd i iechyd mamau a phlant.  Holwyd 1151 o famau â baban rhwng 4 a 12 mis (nid yw bwyd solet yn cael ei argymell tan 6 mis oed, ond mae rhai mamau yn ei gyflwyno'n gynt) sut roeddent yn rhoi bwyd solet i'w babanod, pa fwydydd roeddent yn eu rhoi ac a oedd eu baban wedi tagu erioed.

Ar y cyfan, ni welwyd unrhyw wahaniaeth o ran pa mor aml roedd y baban wedi tagu ymhlith y mamau a oedd yn caniatáu i'w babanod eu bwydo eu hunain â bwyd y teulu; mamau a oedd yn amrywio rhwng bwydo â llwy a chaniatáu i'w baban bwyta â'i fysedd a'r rhai a oedd yn bwydo eu babanod â llwy yn bennaf.

Esboniodd Dr Brown: “Mae gadael i'r baban arwain y broses ddiddyfnu, hynny yw, caniatáu i'r baban ei fwydo ei hun â'r un bwyd â gweddill y teulu, yn hytrach na pharatoi bwyd arbennig wedi'i stwnsio i'w fwydo â llwy, wedi dod yn fwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd diwethaf yn y DU a gwledydd eraill. Fodd bynnag, mae rhai pobl wedi mynegi pryderon ynghylch diogelwch yr arfer hwn, gan ofyn a allai beri risg o dagu i'r babanod".

"Mae'r astudiaeth hon yn ychwanegu at ymchwil blaenorol a gwblhawyd mewn grwpiau sampl llai. Dangosodd yr ymchwil hwn hefyd nad yw'r dull hwn yn cynyddu'r risg o dagu ac, yn wir, yn y DU mae'n ategu argymhelliad yr Adran Iechyd bod babanod yn gallu bwyta bwydydd bys o chwe mis oed.

Arferid cyflwyno bwydydd solet i fabanod llawer iau - dri mis, yna pedwar mis; ond, yn 2002 cyflwynwyd argymhelliad i beidio â rhoi bwyd solet tan chwe mis oed, oherwydd ymchwil a ddangosodd fod aros yn gallu lleihau'r risg o glefydau penodol i fabanod, er enghraifft gastro-enteritis. Mae rhoi bwyd soled i faban chwe mis oed yn wahanol iawn i'w roi i faban pedwar mis oed, oherwydd nad yw babanod wedi datblygu i eistedd yn gefnsyth a llyncu bwyd tan tua'r oedran hwn.

Baby-led weaning

Nid oes unrhyw ffordd 'gywir' o gyflwyno bwydydd solet i faban - y peth pwysicaf yw eich bod yn gadael i'ch baban ddatblygu yn ôl ei gyflymder ei hun a chynnig bwydydd â gwahanol flas ac ansawdd i arbrofi â nhw. Mae llawer o rieni'n dweud eu bod yn mwynhau cael eu harwain gan eu baban, gan ei bod yn haws cynnwys y baban mewn prydau bwyd, sy'n golygu bod y rhieni'n gallu bwyta eu bwyd nhw ar yr un pryd. Fel hyn, nid oes angen treulio amser yn paratoi prydau arbennig ac mae'n osgoi straen. Mae rhai rhieni'n teimlo hefyd bod eu babanod yn bwyta amrywiaeth ehangach o fwydydd o oedran cynharach ac yn mwynhau eu bwyd mwy am eu bod yn rheoli'r hyn maent yn ei fwyta.

Mae'r ymchwil hwn gan yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol sy'n awgrymu nad yw diddyfnu a arweinir gan y baban yn peri risg o dagu, ar yr amod bod bwydydd sy'n hysbys am beri risg o dagu i fabanod yn cael eu hosgoi. Er bod babanod yn dda am fwyta amrywiaeth eang o fwydydd a chnoi bwyd yn dda hyd yn oed heb ddannedd, dylai rhieni feddwl am y bwyd maent yn ei roi i'w plant.

Dylent feddwl am siâp a maint y bwyd maent yn ei roi i'w babanod ac, os nad ydynt yn sicr, dylent siarad â'u hymwelydd iechyd. Ni ddylai plant fwyta:

  • Cnau cyfan (nes eu bod yn 5 oed)
  • Bwydydd caled iawn sy'n gallu torri'n ddarnau bach yn eu ceg, fel tafellau afal heb eu coginio a darnau o foronen
  • Bwydydd gelatinaidd fel darnau o selsig, ciwbiau jeli neu felysion gludiog
  • Bwydydd gludiog a allai fynd yn sownd, o leiaf dros dro, yn y gwddf, fel darnau trwchus o fara
  • Darnau mawr o fwydydd gwlyb, y gallai'r baban golli gafael ynddynt a'u llyncu'n gyfan, megis darnau mawr a chaled o felon ac afocado, neu fanana aeddfed iawn
  • Piwrî sych iawn sy'n llawn talpau a allai fynd yn sownd yng ngwddf baban o'i roi mewn llwyaid rhy fawr.

Ni ddylai dognau llai, mwy meddal o'r bwydydd hyn beri problem. Yn bwysicaf oll, ni waeth pa ddull diddyfnu a ddewisir, dylai'r un sy'n gofalu am y baban aros gyda'r baban nes iddo orffen bwyta.

Mae'r ymchwil wedi'i gyhoeddi mewn erthygl o'r enw: ‘No difference in self-reported frequency of choking between infants introduced to solid foods using a baby-led weaning or traditional spoon-feeding approach’, a gyhoeddwyd gan y Journal of Human Nutrition and Dietetics (JHND) ac mae ar gael yma.