Ymchwiliadau i geoglyffau rhyfedd yn datgelu hanes hir o effeithiau dynol ar goedwig law yr Amazon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd coedwig law'r Amazon ei thrawsnewid dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl gan bobl hynafol a adeiladodd gannoedd o wrthgloddiau mawr, rhyfedd, yn ôl canfyddiadau arbenigwyr, sydd wedi darparu tystiolaeth newydd i ddangos sut roedd pobl frodorol yn byw yng nghoedwig law'r Amazon cyn i bobl Ewropeaidd gyrraedd y rhanbarth.

Cyhoeddodd y tîm ymchwil rhyngwladol o Frasil a'r DU, a oedd yn cynnwys Dr Neil Loader a'r Athro Emeritws Alayne Street-Perrott o Adran Daearyddiaeth Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, ei ganfyddiadau yn Nhrafodion Academi Genedlaethol y Gwyddorau UDA.

Ymchwiliodd y tîm i'r safleoedd wedi'u hamgáu gan ffosydd, yn nhalaith Acre yng Ngorllewin Coedwig Law'r Amazon ym Mrasil a oedd wedi'u cuddio am ganrifoedd gan lystyfiant bambŵ sylweddol y goedwig law tan i ddatgoedwigo yn yr oes fodern ddatgelu mwy na 450 o'r geoglyffau geometrig mawr.

Mae diben y safleoedd hyn yn ddirgelwch o hyd.  Mae'n annhebygol mai pentrefi oeddent oherwydd nad yw archeolegwyr wedi dod o hyd i lawer o arteffactau yn ystod y cloddio, ac nid yw'r cynllun yn awgrymu y cawsant eu hadeiladu at ddibenion amddiffyn. Yn hytrach, credir eu bod wedi cael eu defnyddio'n ysbeidiol yn unig, efallai fel safleoedd ymgynnull at ddiben defodol.

Amazon earthworks courtesy of Diego GurgelSafleoedd wedi'u hamgáu gan ffosydd yw'r rhain, wedi'u gwasgaru dros oddeutu 13,000 km sgwâr. Mae'r darganfyddiad hwn yn herio rhagdybiaethau nad oedd pobl wedi effeithio ar ecosystemau'r goedwig law.

Meddai Dr Jenny Watling a arweiniodd yr astudiaeth: "Mae'r ffaith bod y safleoedd hyn wedi bod yn guddiedig dan goedwig law aeddfed ers canrifoedd yn herio'r syniad mai 'ecosystemau digyfnewid' yw coedwigoedd glaw yr Amazon.

"Ar unwaith, roddem am wybod a oedd y rhanbarth wedi'i orchuddio gan goedwigoedd eisoes pan adeiladwyd y geoglyffau, ac i ba raddau yr effeithiodd pobl ar y dirwedd wrth adeiladu'r gwrthgloddiau hyn."

Gan ddefnyddio'r dulliau mwyaf soffistigedig, roedd aelodau'r tîm yn gallu ail-greu 6000 o flynyddoedd o hanes llystyfiant a thân o gwmpas dau safle geoglyffau. Yn ôl eu canfyddiadau, roedd pobl wedi cael effaith sylweddol ar y coedwigoedd bambŵ am filenia, gan wneud llennyrch bach dros dro i adeiladu'r geoglyffau.

Dadansoddodd Dr Loader isotopau-carbon ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae ei ganfyddiadau'n awgrymu nad adeiladwyd y geoglyffau hyn ar laswelltir safana agored fel y gellid ei ddisgwyl. Meddai Dr Loader: "Yr arwyddion yw y cafodd y geoglyffau eu hadeiladu yng nghanol llystyfiant uwch. Felly, yn wahanol i byramidiau Maiaidd enfawr Canolbarth America, mae'n debygol nad oedd y rhain yn weladwy uwchben canopi'r goedwig, ac mae hyn yn peri cwestiynau am eu diben."

‌Mae'r ymchwil yn awgrymu, yn hytrach na llosgi darnau mawr o'r goedwig - naill ai er mwyn adeiladu'r geoglyffau neu at ddibenion amaethyddol - bod y bobl wedi trawsnewid eu hamgylchedd drwy ganolbwyntio ar rywogaethau coed o werth economaidd, megis palmwydd, gan greu math o 'archfarchnad gynhanesyddol' o gynhyrchion defnyddiol y goedwig. Daeth y tîm o hyd i dystiolaeth gyffrous i awgrymu bod bioamrywiaeth rhai o'r coedwigoedd sy'n weddill yn Acre yn adlewyrchu'r arferion 'agro-goedwigaeth' hyn yn gryf.

Er gwaethaf nifer a dwysedd enfawr safleoedd y geoglyffau yn y rhanbarth, roedd yr ymchwilwyr yn sicr na chafodd coedwigoedd Acre eu clirio i raddau mor helaeth, neu am gyhyd, ag a wneir yn y blynyddoedd diweddar.

Amazon earthworks courtesy of Edison CaetanoMeddai Dr Watling: "Ni ddylid defnyddio ein tystiolaeth ni bod coedwigoedd yr Amazon wedi cael eu rheoli gan bobloedd frodorol cyn unrhyw gysylltiad ag Ewrop i gyfiawnhau'r ffordd ddinistriol ac anghynaladwy mae'r tir yn cael ei ddefnyddio heddiw. Yn hytrach, dylai amlygu dyfeisgarwch cyfundrefnau cynhaliaeth y gorffennol, nad oeddent yn arwain at ddirywiad y coedwigoedd, a phwysigrwydd gwybodaeth frodorol ar gyfer dod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o ddefnyddio tir."

Cyhoeddir yr erthygl lawn yn Nhrafodion Academi Genedlaethol y Gwyddorau UDA ac mae'n cynnwys gwaith ymchwilwyr o brifysgolion Caerwysg, Abertawe a Reading (y DU), São Paulo, Belém ac Acre (Brasil). Ariannwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, National Geographic a Chyfleuster Radiocarbon y Cyngor Ymchwil Amgylcheddol Cenedlaethol.

Wrth ymgymryd â'r astudiaeth, cymerodd y tîm samplau pridd o gyfres o byllau a gloddiwyd y tu mewn i'r geoglyffau a'r tu allan iddynt. O'r priddoedd hyn, aethant ati i ddadansoddi: 'phytolithau', math o ffosiliau planhigion microsgopig wedi'u gwneud o silica er mwyn ail-greu llystyfiant hynafol; symiau golosg, er mwyn asesu graddfa llosgi'r goedwig hynafol; ac isotopau carbon sefydlog, i nodi'r mathau o lystyfiant a dyfai yno yn y gorffennol.

Llun 1 & 2 drwy garedigrwydd  Diego Gurgel.
Lluniau 3 drwy garedigrwydd Edison Caetano