Saith o bynciau Abertawe’n ymddangos yn nhabl dylanwadol y QS World University Rankings 2017

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tabl y QS World University Rankings by Subject 2017 a gyhoeddwyd heddiw (8 Mawrth) yn cynnwys saith o bynciau a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe, pedwar yn fwy nag yn 2016.

O'r cyfanswm o 46 o bynciau sydd yn ymddangos yn y tabl eleni, mae disgyblaethau Peirianneg y Brifysgol yn parhau i berfformio'n dda. Mae Peirianneg Sifil, Strwythurol, Mecanyddol, Awyrennol a Gweithgynhyrchu wedi cadw eu lle ymhlith y 200 uchaf, ac eleni mae Peirianneg Gemegol wedi ymuno â’r 300 gorau yn y byd.

Mae Mathemateg wedi’i rhestri yn y tablau cynghrair byd-eang eleni, ac yn ymuno â thri phwnc newydd - Y Gyfraith; Meddygaeth; a Ffiseg a Seryddiaeth.

Eleni mae QS wedi cyflwyno tablau newydd ar gyfer meysydd pwnc yn ychwanegol i’r safleoedd pwnc unigol, ac mae tri o feysydd pwnc Abertawe wedi’u cynnwys: y Celfyddydau a'r Dyniaethau; Peirianneg a Thechnoleg; a Gwyddorau Naturiol.

Professor Hilary Lappin-ScottMeddai’r Athro Hilary Lappin-Scott, uwch-ddirprwy is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydym yn hynod o falch o weld Prifysgol Abertawe yng nghwmni rhai o sefydliadau gorau’r byd. Mae ein disgyblaethau Peirianneg wedi cadw eu lle ymhlith 200 gorau’r byd, gyda chofnod newydd ar gyfer Peirianneg Gemegol yn y 300 uchaf.

"Mae’r Gyfraith, Mathemateg, Meddygaeth, a Ffiseg hefyd ymuno â'r safleoedd gorau yn y byd.

“Bu llawer iawn o waith caled gan gydweithwyr i sicrhau canlyniad mor llwyddiannus ac, ar ran Tîm Rheoli Uwch y Brifysgol, hoffwn estyn diolch o waelod calon i bawb sy'n gysylltiedig â’r cyflawniad gwych hwn.

"Mae hyn oll yn danfon neges glir unwaith eto bod Prifysgol Abertawe’n parhau i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i’n myfyrwyr. Cafodd hyn ei gydnabod gan dabl cynghrair The Times and The Sunday Times Good University Guide 2017, a oedd yn rhestru Abertawe fel y brifysgol orau yng Nghymru, gan gipio teitl Prifysgol y Flwyddyn Cymru.

“Mae safle Campws y Bae gwerth £450 miliwn, a agorodd ym mis Medi 2015, a gwelliannau gwerth £60 miliwn i gampws Parc Singleton llai na blwyddyn yn ddiweddarach, wedi caniatáu i ni ehangu ein partneriaethau strategol rhyngwladol, gan ddod â diwydiant a meddyliau academaidd ynghyd er mwyn cyfnewid syniadau a hwyluso gwaith ymchwil ar y cyd. 

“Nawr gellir gweld ffrwyth uchelgais a chynlluniau’r Brifysgol i dyfu ac ehangu, a rhaglen datblygu campws sydd wedi gweddnewid ystâd bresennol y Brifysgol i brifysgol a yrrir gan ymchwil sydd i’w ddisgwyl yn yr 21ain ganrif. Mae hyn wrth i ni barhau i fedi anrhydeddau annibynnol pellach a llwyddiant yn nhablau cynghreiriau’r byd”.

I weld manylion llawn tablau QS World University Rankings by Subject 2017, cliciwch yma.