Prifysgol Abertawe yn rhagori yn nhablau cynghrair The Times World University Rankings

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill ei safle uchaf erioed yn nhablau cynghrair The Times World University Rankings 2017-18, cynghrair sydd yn rhestri dros 1,000 o sefydliadau gorau’r byd.

Mae'r Brifysgol bellach yn ymddangos ymhlith y 300 o sefydliadau gorau’r byd, gan ennill safle 251-300 - naid o dros gant o safleoedd mewn tair blynedd. Yn ogystal, mae'r corff wedi rhestru'r Brifysgol yn safle 35 allan o 93 o brif sefydliadau'r DU, ac yn ail allan o holl brifysgolion Cymru. Dyma safle uchaf y Brifysgol yn ei hanes.  

Times Higher Education World University RankingsMae The Times World University Rankings yn edrych ar bum prif gonglfaen mewn addysg uwch gan gynnwys: addysgu, ymchwil, mynegeion cyfeirio, incwm gan ddiwydiant, a gweledigaeth ryngwladol.  

Mae llwyddiant y Brifysgol wedi'i gyflawni yn bennaf oherwydd y cynnydd parhaus yn nifer y mynegiadau cyfeirio ymchwil. Mae'r dangosydd hwn yn mesur y nifer o weithiau y mae'r ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i gyfeirio ato neu ei ddefnyddio gan ymchwilwyr eraill ar draws y byd, gan helpu i hyrwyddo'r wybodaeth fyd-eang ar bwnc penodol. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae sgôr mynegeion cyfeirio’r Brifysgol wedi dyblu, ac mae'r safle ar gyfer y dangosydd penodol hwn wedi cynyddu dros 140 o leoedd i safle 206 yn y byd.

Maes arall o gryfder sy'n ymddangos yn y canlyniadau yw sgôr rhagolygon rhyngwladol y Brifysgol. Mae hyn yn asesu pa mor rhyngwladol yw sefydliad o ran recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, denu’r staff rhyngwladol gorau a chydweithio ar ymchwil gyda phrifysgolion rhyngwladol eraill. Fe wnaeth y sgôr hon wella eto o 75.8 i 79.9 ac mae'r dangosydd hwn bellach yn rhoi’r Brifysgol yn safle 139 yn y byd (cynnydd o 21 safle).

Professor Hilary Lappin-ScottCroesawodd yr Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy-Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi a Datblygu Strategol, y newyddion: "Rydym wrth ein bodd bod y Brifysgol wedi cael ei chydnabod ymhlith y 300 o brifysgolion gorau yn y byd am y tro cyntaf. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf gwelwyd cyfnod dramatig o drawsnewid a thwf i'r Brifysgol.

"Mae ein cryfder ac ansawdd ein hymchwil yn gwella o flwyddyn i flwyddyn a dengys y canlyniadau hyn bod ein hymchwil byd-eang yn cael ei ddefnyddio gan academyddion eraill ledled y byd.

"Mae'r llwyddiant yma i'r Brifysgol yn dyst i ymroddiad ac ymdrech ddiflino ein staff academaidd a’r staff cefnogol, a dylem oll ymfalchïo yn y llwyddiant a'r gydnabyddiaeth y mae hwn wedi ennill".

Mae'r cyflawniad diweddaraf hwn hefyd yn cadarnhau safle Abertawe fel prifysgol uchelgeisiol, a daw yn sgil cyfres o lwyddiannau diweddar, gan gynnwys: cyrraedd y 30 uchaf o sefydliadau dwys eu hymchwil yng Nghanlyniadau Fframwaith Ragoriaeth Ymchwil 2014; ennill pum seren am ansawdd ein haddysgu yn ôl QS; gwobr arian yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, ac ennill y teitl Prifysgol y Flwyddyn Cymru gan The Times a’r The Sunday Times. Ar ben hynny oll, mae’r Brifysgol wedi dringo i fod ymhlith y 15 uchaf yn y DU am ragolygon i raddedigion, gyda bron i 83% mewn cyflogaeth broffesiynol neu astudiaeth bellach.

I weld canlyniadau The Times World University Rankings, cliciwch yma.