Prifysgol Abertawe yn lansio rhaglen Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2017

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn arddangos ei hymchwil ysbrydoledig ac amrywiol wrth iddi lansio ei gŵyl wyddoniaeth newydd am ddim, sef y digwyddiad mwyaf o'i fath yng Nghymru.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 8 a 10 Medi mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau wedi'i lansio gan ddatgelu pynciau amrywiol megis deinosoriaid, ymddyrchafael, Star Wars, cynrhon a ffiseg gronynnau ym maes chwaraeon ymhlith yr uchafbwyntiau i ymwelwyr.

Bydd yn cychwyn ar ddydd Gwener 8 Medi trwy raglen o ddarlithoedd a gweithdai rhyngweithiol i oedolion yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau lle y gwahoddir ymwelwyr i archwilio seiberderfysgaeth, tynnu lluniau o'u breuddwydion a helpu i greu wyneb Abertawe.  Daw'r digwyddiad i ben trwy noson gabaret a fydd yn llawn hwyl, chwerthin a gwyddoniaeth.

Bydd y rhaglen i deuluoedd hefyd yn cychwyn ar y nos Wener trwy berfformiad dawns Flying Atoms gan Powys Dance yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin. Wedyn bydd y gweithgarwch yn symud i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe yng nghanol yr Ardal Forol ar gyfer penwythnos llawn digwyddiadau difyr i'r teulu cyfan.

Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe

Bydd gwledd o brofiadau difyr rhyngweithiol a chyfle i ddarganfod llwyth o bethau diddorol am wyddoniaeth drwy gyflwyniadau theatraidd, cerddoriaeth ac arddangosfeydd.  Caiff ymwelwyr ifainc a'u teuluoedd gyfle i greu slwtsh, dysgu am bowdrau, gronynnau a phopcorn a chael hwyl yn y carnifal gwyddoniaeth.

Bydd cyflwynydd CBeebies, Lizzie Daly yn trafod sut mae'n teimlo i fod yn anifail a bydd y biolegydd esblygol a chyflwynydd BBC, Ben Garrod yn archwilio byd y deinosoriaid.

Meddai'r Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Hilary Lappin-Scott: "Roeddem yn falch iawn o gynnal Gŵyl Wyddoniaeth Prydain hynod lwyddiannus y llynedd a oedd yn sylfaen i gychwyn gwaddol gŵyl wyddoniaeth ar gyfer y ddinas.  Roedd y profiad yn un mor gadarnhaol fel na allwn aros i fynd allan yn ein cymunedau ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr."

"Rydym hefyd yn falch iawn o'r gefnogaeth rydym wedi'i derbyn gan Weinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James a byddwn yn ei chroesawu i'r nifer o atyniadau pan fydd yn ymweld â'r ŵyl ym mis Medi."  

Cliciwch yma i weld y rhaglen lawn.