NSPCC Cymru a Phrifysgol Abertawe'n cydweithio i atal meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae deunyddiau i atal meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein, sydd รข'r nod o helpu i rwystro pedoffiliaid rhag targedu plant a phobl ifanc, yn cael eu lansio heddiw ym Mhrifysgol Abertawe (28 Medi).

STOP TimeMae ymchwilwyr o'r Brifysgol sy'n astudio iaith a dulliau pedoffiliaid ar-lein wedi canfod y gallai oedolion gysylltu â phlant ar y rhyngrwyd, meithrin perthynas amhriodol â nhw a threfnu cwrdd o fewn ychydig oriau yn unig.

Bob blwyddyn, mae miloedd o blant ledled y DU yn cysylltu â gwasanaeth Childline yr NSPCC i fynegi pryderon ynghylch eu defnydd o'r rhyngrwyd. Yn 2016/17, cynhaliodd Childline 12,248 o sesiynau cwnsela am ddiogelwch a cham-drin ar-lein - cynnydd o naw y cant ers y flwyddyn flaenorol.

Gyda chymorth cyllid gan  Ganolfan yr Economi Ddigidol Cherish (Cherish-De), mae'r NSPCC a Phrifysgol Abertawe wedi cynhyrchu'r pecyn gweithgareddau 'Stop TIME Online' a gaiff ei ddefnyddio i gynyddu ymwybyddiaeth o sut mae troseddwyr yn meithrin perthynas amhriodol ar-lein â phlant a sut i atal hyn.

Bydd y deunyddiau Stop Time Online ar gael i weithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant ac maent yn cael eu defnyddio mewn cynlluniau peilot yng nghanolfannau gwasanaeth yr NSPCC yn Abertawe, Caerdydd, Prestatyn a gogledd-orllewin Lloegr. Yr uchelgais yw i'r deunyddiau hyn gael eu cyflwyno ledled y DU.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn ymchwilio i gyfathrebu wrth feithrin perthynas amhriodol ar-lein ers 2012, wedi'u hysbrydoli gan ddiffyg ymchwil blaenorol i ddulliau'r troseddwyr hyn.

Mae'r ymchwil wedi cynnwys archwilio'r iaith a ddefnyddiwyd mewn amrywiaeth o gofnodion sgwrsio pedoffiliaid euogfarnedig a fu'n meithrin perthynas amhriodol â'u dioddefwyr ar-lein. Darganfuwyd bod y perthnasoedd hyn yn gallu cael eu meithrin yn syfrdanol o gyflym, weithiau o fewn oriau, a bod y pedoffiliaid yn trefnu cwrdd â phlant mewn cyfnod amser byr iawn. Mewn un achos,  20 munud yn unig oedd ei angen i berswadio plentyn i gwrdd â throseddwr.

Ers mis Ionawr eleni, mae NSPCC Cymru wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i greu'r deunyddiau atal meithrin perthnasoedd amhriodol, Stop TIME Online, er mwyn helpu i addysgu plant a phobl ifanc i feddwl cyn siarad â phobl ar-lein. Maent hefyd wedi ymgynghori â phobl ifanc i greu'r acronym TIME sy'n defnyddio terminoleg y gall y bobl ifanc ei deall a'i chofio.

Mae'r acronym TIME yn cynrychioli:

Ymddiriedaeth: Mae troseddwyr yn dweud pethau i feithrin 'ymddiriedaeth amheus' ac i feithrin perthynas â chi.

Ynysu: Mae'r troseddwyr hyn yn gwneud i chi deimlo ar wahân (yn gorfforol ac yn feddyliol) i'r bobl yn eich bywyd.

Mesur: Maen nhw'n dweud pethau i brofi pa mor gryf yw eu perthynas â chi.

Mwynhau: Maen nhw'n cael gwefr o siarad am bethau rhywiol a rhamantus a gofyn am gyfnewid hunluniau noeth.

Meddai Ruth Mullineux, arweinydd y prosiect gydag NSPCC Cymru:

"Mae diogelwch ar-lein yn agwedd bwysig ar amddiffyn plant yn yr unfed ganrif ar hugain ac mae'n hanfodol ein bod yn ymchwilio i'r dulliau a ddefnyddir i dargedu plant ar-lein, fel y gallwn weithredu. Mae addysg yn hynod bwysig i amddiffyn y genhedlaeth nesaf rhag niwed.

"Mae ymchwil arloesol Prifysgol Abertawe wedi caniatáu i ni greu'r adnoddau hyn a fydd yn helpu ymarferwyr proffesiynol i siarad â phlant a phobl ifanc am beryglon meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein.

“Rydym yn edrych ymlaen at roi'r deunyddiau hyn ar waith ar sail beilot yng nghanolfannau gwasanaeth yr NSPCC ledled Cymru ac at weld y canlyniadau."

Mae'r Athro Nuria Lorenzo-Dus, Athro Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, wedi bod yn arwain y tîm o ymchwilwyr sy'n gyfrifol am y prosiect.

Meddai:  "Mae meithrin perthnasoedd amhriodol â phlant ar-lein yn un o'r bygythiadau troseddol mwyaf dichellgar i gymdeithas sifil sydd wedi deillio o ddatblygiad y rhyngrwyd. Mae'r prosiect hwn yn helpu i ddiogelu dyfodol digidol rhai o aelodau pwysicaf a mwyaf diamddiffyn ein cymdeithas.

"Drwy ddadansoddi'r iaith a ddefnyddir gan y rhai sy'n ceisio meithrin perthnasoedd amhriodol â phlant, rydym wedi gallu integreiddio dealltwriaeth academaidd â mewnbwn gan randdeiliaid i greu deunyddiau amddiffyn arloesol i'w defnyddio gan weithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda phlant."  

Meddai Carl Sargeant AC, Aelod y Cabinet dros Blant a Chymunedau: “Mae cadw'n plant yn ddiogel yn flaenoriaeth allweddol ac mae gan bawb rôl i'w chwarae wrth eu haddysgu sut i fod yn ddiogel ar-lein. Mae'r adnodd sy'n cael ei lansio heddiw yn un enghraifft yn unig o'r gwaith arloesol mae Prifysgol Abertawe'n ei ddatblygu gyda'i phartneriaid, gan gynnwys NSPCC Cymru, sy'n gwneud gwaith ardderchog i amddiffyn plant drwy ddatblygu gwybodaeth ac adnoddau diogelu."

Ychwanegodd yr Athro Richard B Davies, Is Ganghellor Prifysgol Abertawe:  "Drwy ddefnyddio ein cryfderau ymchwil i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, a thrwy weithio gyda chyrff allanol priodol, rydym yn ymrwymedig ym Mhrifysgol Abertawe i helpu i wneud y byd yn lle gwell. Mae'r prosiect amserol a phwysig hwn, ym maes atal meithrin perthnasoedd amhriodol ar-lein, wedi'i gynllunio i'r union ddiben hwnnw."

Meddai'r Athro Matt Jones, Prif Ymchwilydd CHERISH-DE: "Mae'r gwaith hwn yn amlygu'r hyn rydym yn ymdrechu i'w gyflawni:  arloesi sy'n galluogi pobl - yn yr achos hwn, plant ac oedolion ifanc - i ffynnu a blodeuo drwy ryngweithio digidol, yn hytrach na chael eu llethu, eu niweidio neu eu dieithrio ganddo. Rwyf wrth fy modd gyda chanlyniad y prosiect, ac edrychaf ymlaen at weld ei effaith gadarnhaol ledled y DU."