Mae’r Brifysgol yn talu teyrnged i'w Changhellor, Rhodri Morgan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe'n drist iawn o glywed am farwolaeth ein Canghellor, Rhodri Morgan.

Roedd Rhodri'n gawr gwleidyddol a chanddo ddylanwad enfawr ar gyflwr y Gymru gyfoes, ac roeddem wrth ein boddau pan gytunodd i dderbyn rôl Canghellor y Brifysgol yn 2011. Roedd ganddo le arbennig yn ei galon i'r Brifysgol ac yn aml byddai'n jocian na fyddai yntau wedi cael ei eni hebddi, oherwydd mai yn Abertawe y cyfarfu ei rieni fel myfyrwyr israddedig. Bu Rhodri'n was gwych i'r Brifysgol, ac yn was gwych i Gymru hefyd. Roedd bob amser yn gynnes wrth bawb ac yn hawdd mynd ato. Mae gan lawer o gyn-fyfyrwyr atgofion annwyl amdano’n sgwrsio â nhw pan gyflwynodd eu tystysgrifau gradd iddynt mewn seremonïau graddio. Ac wrth gwrs, fel cefnogwr brwd chwaraeon, roedd Rhodri'n mwynhau gêm rygbi flynyddol Varsity Cymru! Roedd ei rôl wrth lywodraethu'r Brifysgol yn hynod bwysig, ac roedd yn anrhydedd ei gael yn arweinydd ac yn gynrychiolydd Prifysgol Abertawe.

The Right Honourable Rhodri Morgan

Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae Prifysgol Abertawe, ei staff a'i myfyrwyr, wedi colli cyfaill gofalgar, mawr ei barch. Bydd colled fawr ar ei ôl. Mae ein cydymdeimlad gyda Julie ei wraig, eu plant a'u hwyrion, a chyda'i frawd, Prys.

"Roedd ei hoffter o Brifysgol Abertawe'n amlwg ac roedd yn bleser mawr ganddo adnewyddu'r cysylltiadau cryf rhwng y Brifysgol a'i deulu wrth dderbyn rôl y Canghellor yn 2011. Fe ymroddodd yn frwdfrydig i’r rôl. Roedd wrth ei fodd yn llywyddu mewn seremonïau graddio, yn sgwrsio â'r graddedigion, derbynyddion graddau er anrhydedd, a'u teuluoedd. Byddai llawer o ddigwyddiadau'n fwy bywiog oherwydd ei gyfraniadau treiddgar, difyr, a heriol yn aml. Roedd hefyd yn llysgennad diwyd dros y Brifysgol yng Nghymru; a thramor, roedd yn helpu i hyrwyddo ymchwil cydweithredol a rhaglenni cyfnewid myfyrwyr. Roedd ganddo frwdfrydedd heintus am fywyd ac addysg. Roedd ei deimladau cynnes dros y Brifysgol, Abertawe a'i wlad, Cymru, bob amser yn amlwg yn ei eiriau ac yn ei ymddygiad.