Hwb i iechyd yn ne-orllewin Cymru: lansio Academi Iechyd a Llesiant newydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd pobl yn ne-orllewin Cymru yn derbyn mwy o gymorth i fyw bywydau iachach a chwarae rôl yn y gwaith o hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, diolch i Academi Iechyd a Llesiant newydd a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, a gaiff ei hagor yn swyddogol heddiw gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething (Dydd Llun 6 Mawrth).

Mae’r Academi’n cynnig ystod o wasanaethau, gan ategu’r rhai a ddarperir gan y GIG, gan gynnwys:

  • Clywedeg – o brofion clyw i gyngor ar y cymhorthion clyw “Made for iPhone” diweddaraf
  • Osteopatheg – cymorth gyda phoen yn y cymalau a’r cyhyrau
  • Gofal ar ôl profedigaeth i blant a phobl ifanc
  • Bydwreigiaeth – megis bwydo ar y fron a grŵp cymorth i famau newydd
  • Anafiadau i’r ymennydd – grŵp cymorth i gleifion, a redir gan bartneriaid GIG lleol

Caiff y gwasanaethau eu rhedeg gan weithwyr proffesiynol cofrestredig ac mae llawer ohonynt yn dysgu yn y Coleg ac yn gweithio yn y GIG.

600 x 518

Lleolir yr Academi yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol, sef darparwr mwyaf Cymru o ran addysg gofal iechyd anfeddygol. Trwy gynnig y gwasanaethau hyn, mae hefyd yn golygu y gall y Coleg roi rhagor o gyfleoedd i gael yr hyfforddiant gorau posibl i’w fyfyrwyr - sef gweithlu gofal iechyd y dyfodol.    

Yn ogystal, bydd yr Academi yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil ar iechyd a llesiant, gan dynnu ar gryfderau ymchwil presennol y Coleg.

Mae’r Academi hefyd yn dathlu carreg filltir trwy fod y cyntaf o sawl newid a gyflwynir yn rhan o bartneriaeth ARCH, sy’n arloesi ffyrdd newydd o ddarparu gofal, er mwyn gwella iechyd pobl yn ne-orllewin Cymru.

400 x 433Meddai Julia Pridmore, Pennaeth yr Academi Iechyd a Llesiant ym Mhrifysgol Abertawe:

“Nod yr Academi yw gwella iechyd a llesiant mewn gwahanol ffyrdd. Rydym eisoes yn darparu gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth uniongyrchol, gan helpu pobl i fyw bywydau iachach a chymryd yr awenau mewn perthynas â’u hiechyd.

Ond rydym hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer y dyfodol, gan ddarparu hyfforddiant gwell i weithlu gofal iechyd y dyfodol, a chan weithredu fel hyb ar gyfer ymchwil ar iechyd a lles. Mae’r holl feysydd hyn wrth wraidd gwaith yr Academi.  

Mae’n rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd yr ydym yn gwella iechyd ac yn darparu gofal iechyd. Dyna ddiben partneriaeth ARCH, sy’n cynnwys gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn y GIG.

Rydym yn falch iawn fod yr Academi ymhlith y cyntaf o’r buddion niferus y bydd ARCH yn eu darparu, gan wella iechyd pobl ar draws de-orllewin Cymru.”