Hwb ariannu gwerth £1.2 filiwn i'r ganolfan ymchwil i heneiddio a dementia

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Canolfan Cymru gyfan ar gyfer Ymchwil i Heneiddio a Dementia a leolir ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb ariannu gwerth £1.2 filiwn a fydd yn galluogi'r prosiect i barhau tan 2020.

Dyfarnwyd y cyllid i'r Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR) gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae CADR, a sefydlwyd yn 2015, yn bartneriaeth rhwng prifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd.

CADRGwnaethpwyd y cyhoeddiad gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a phwysleisiodd bwysigrwydd cymorth a buddsoddi parhaus ar gyfer ymchwil yng Nghymru.

Mae CADR, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn ganolfan ymchwil o safon fyd-eang sy'n mynd i'r afael â chwestiynau allweddol o bwys rhyngwladol ym maes heneiddio a dementia. Mae'r Ganolfan, a sefydlwyd yn 2015, yn integreiddio gweithgarwch amlddisgyblaethol ac yn datblygu meysydd arbenigedd o fiolegol, i seico-gymdeithasol ac amgylcheddol, i bolisi cyhoeddus mewn heneiddio a dementia. 

Meddai'r Athro Vanessa Burholt, Cyfarwyddwr CADR: "Mae CADR yn meithrin math newydd o ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol gyda gweledigaethau newydd ar gyfer heriau gwyddonol y dyfodol. At hynny, drwy ddod â'n cymuned wyddonol ryngddisgyblaethol ynghyd â rhanddeiliaid a'r rhai sy'n defnyddio ymchwil, rydym yn creu effaith fawr. Mae'r cyhoeddiad cyllid hwn yn sicrhau y gallwn barhau i gynnal ymchwil flaenllaw ac ymateb i heriau poblogaeth sy'n heneiddio.  Eleni rydym wedi creu partneriaethau a chydweithrediadau ymchwil â'r GIG, y llywodraeth, diwydiant a'r trydydd sector sydd oll wedi arwain at fuddion go iawn o ran iechyd, lles ac annibyniaeth i bobl hŷn".