Gwyddonwyr Abertawe am dreialu bandais clyfar o fewn 12 mis

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe yn arwain gwaith ymchwil i dreialu bandeisiau clyfar sy’n defnyddio technoleg 5G i fonitro pa driniaeth sydd ei angen, ac i ddanfon gwybodaeth at ddoctoriaiad am sut mae’r clwyf yn gwella.

Mae'n ffurfio rhan o'r cytundeb £1.3 biliwn Bae Abertawe sy'n anelu at greu canolfan brawf 5G ar gyfer arloesi digidol.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd cadeirydd Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, yr Athro Marc Clement: "Mae technoleg 5G yn gyfle i gynhyrchu ystod dechnolegol fydd yno'n barhaol ar gyfer gofal meddygol.

Bandage

"Bydd y bandais glyfar yn defnyddio nanotechnoleg i asesu cyflwr clwyf ar unrhyw amser penodol.

"Bydd y wybodaeth yn cael ei gysylltu gyda'r rhwydwaith 5G a bydd y rhwydwaith hwnnw wedyn yn rhoi gwybod i'r unigolyn beth yw cyflwr ei clwyf drwy eich ffon. Bydd gwybodaeth megis eich lleoliad a'ch cyflwr corfforol hefyd ar gael drwy eich ffôn.

"Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei ddefnyddio gan y clinigwyr fydd yn asesu cyflwr y clwyf fydd yn eu galluogi i drefnu triniaeth benodol ar gyfer yr unigolyn.

"Mae'r dyfodol yn golygu bydd modd newid triniaethau i siwtio'r unigolyn. Bydd modd i'r claf a'r meddygon weithio gyda'i gilydd er gwell", meddai'r Athro Clement

Bydd arbenigwyr mewn nanotechnoleg yn datblygu synwyryddion a bydd argraffwyr 3D yn yr ysgol gwyddorau dynol yn cynhyrchu bandais fydd yn lleihau'r gost.