Gwobr Arian Athena SWAN i Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd i gydnabod ei welliant ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe wedi derbyn gwobr arian Athena SWAN gan yr Uned Her Cydraddoldeb i gydnabod ei ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn addysg uwch.

Mae ennill y wobr yn golygu bod Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd 'yn cydnabod sylfaen gadarn ar gyfer dileu rhagfarn ar sail rhyw a datblygu diwylliant cynhwysol sy'n gwerthfawrogi'r holl staff' yn ôl canllawiau Athena SWAN.

Athena SWAN Silver award logoSefydlwyd Siarter Athena SWAN yr Uned Her Cydraddoldeb yn 2005 er mwyn annog a chydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.

Ym mis Mai 2015, ehangwyd y siarter i gydnabod gwaith yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a'r gyfraith, mewn rolau proffesiynol a chefnogi, ac ar gyfer staff a myfyrwyr traws. Mae'r siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ehangach, nid yn unig i ddileu'r rhwystrau sy'n effeithio ar fenywod.

Mae Siarter Athena SWAN yn berthnasol i fenywod (a dynion lle bo hynny'n briodol) mewn:

  • rolau academaidd ym meysydd STEMM, y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a'r gyfraith
  • staff proffesiynol a chefnogi
  • staff a myfyrwyr traws

Yn y meysydd canlynol:

  • cynrychiolaeth
  • mynediad myfyrwyr i'r byd academaidd
  • eu taith drwy gerrig milltir gyrfaol
  • amgylchedd gweithio'r holl staff

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i hyrwyddo cyfartaledd rhwng y rhywiau ac mae wedi bod yn aelod balch o Siarter Athena SWAN ers 2008. Enillodd y Brifysgol wobr efydd yn 2009 a dyfarnwyd gwobr efydd arall iddi ym mis Ebrill  2013.

Meddai'r Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: Mae'r Coleg wrth ei fodd ei bod wedi ennill Gwobr Arian Athena SWAN i gydnabod ei ymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau a'i ymdrechion i sicrhau cynrychiolaeth briodol, datblygiad a llwyddiant ar gyfer ei holl staff. Mae'r wobr hon yn perthyn i holl staff y Coleg, ond rhaid talu teyrnged arbennig i ymroddiad ac ymrwymiad yr Athro Joy Merrell a'i thîm yn y Coleg i sicrhau bod egwyddorion sylfaenol cydraddoldeb rhwng y rhywiau'n cael lle canolog yn agendâu strategol a gweithredol y Coleg".

Ychwanegodd yr Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor (Ymchwil a Chydnabyddiaeth Allanol) a Chadeirydd Grŵp Strategaeth Athena SWAN ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae'r wobr bwysig iawn hon i Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn dangos y gwelliant ym mherfformiad y Coleg o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a chynnydd parhaus y Brifysgol drwy gydnabyddiaeth allanol ar gyfer ein cyflawniad.

Mae ymuno â Siarter Athena SWAN yn helpu i greu newid cadarnhaol mewn sefydliad - fel y gallwn i gyd gyflawni ein potensial personol. Gobeithio bydd y ffaith bod Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ennill gwobr arian Athena SWAN yn annog ac yn ysbrydoli ein hadrannau eraill i anelu'n uwch.