Gweithdy ar y Cyd Abertawe-Tsinghua mewn Peirianneg Gyfrifiadol yn dychwelyd i Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Y mis diwethaf, cynhaliwyd pedwerydd Gweithdy Peirianneg Gyfrifiadol ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Tsinghua, Tsiena, yn llwyddiannus ar Gampws y Bae.

Swansea-Tsinghua Joint Workshop  for Computational Engineering revisits Swansea
Ynghyd ag academyddion o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, croesawodd y digwyddiad deuddydd saith athro blaenllaw o Brifysgol Tsinghua, gan gynnwys yr Athro Zhuo Zhuang, Llywydd Cymdeithas Peirianwyr Cyfrifiadol Tsieina; Yr Athro Yuxin Ren, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Awyrofod; Yr Athro Xiong Zhang, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Awyrennaeth ac Astronoteg; Yr Athro Zhihai Xiang; Yr Athro Zhanli Liu; a'r Athro Yan Liu.

Cynhelir y gweithdy ar y cyd bob dwy flynedd, yn y naill brifysgol bob yn ail, a'i nod yw cryfhau'r berthynas rhwng y sefydliadau ac ehangu'r cydweithio rhwng eu hacademyddion.  Y tro diwethaf y cynhaliwyd y gweithdy ar y cyd ym Mhrifysgol Abertawe oedd ym mis Gorffennaf 2013, a Phrifysgol Tsinghua gynhaliodd y digwyddiad yn 2011 a 2015.

Mae'r cydweithio rhwng Abertawe a Tsinghua wedi arwain at nifer o brosiectau ymchwil ar y cyd, ymweliadau academaidd rheolaidd, cynlluniau cyfnewid myfyrwyr PhD, papurau ymchwil ar y cyd o safon uchel mewn cyfnodolion blaenllaw a rhaglen Erasmus Mundus MSc mewn Mecaneg Gyfrifiadol ar y cyd.

Estynnwyd croeso cynnes i'r gwesteion o Brifysgol Tsinghua eleni gan yr Athro Steve Brown, Pennaeth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, a agorodd y digwyddiad yn swyddogol, a chymerodd ran mewn seremoni frwdfrydig i gyfnewid rhoddion rhwng y sefydliadau, a oedd yn symbol o'r berthynas gref rhwng y ddau bartner.

Meddai'r Athro Yuxin Ren, Dirprwy Bennaeth Ysgol Peirianneg Awyrofod Prifysgol Tsinghua: "Mae bob amser yn bleser ymweld â Phrifysgol Abertawe ac, ar ran Prifysgol Tsinghua, rwy'n diolch i chi am ein croesawu fel eich gwesteion."

Yn ystod y gweithdy, cafwyd 13 cyflwyniad gan academyddion o'r ddau sefydliad. Roedd y cyflwyniadau'n ymwneud ag amrywiaeth eang o bynciau ymchwil ym meysydd mecaneg gyfrifiadol a pheirianneg gyfrifiadol, gan gynnwys peirianneg fiofeddygol, modelu amlraddfa, modelu stocastig, peirianneg ddeunyddiau a chymwysiadau peirianneg eraill.

Er i'r gweithdy ar y cyd gael ei gynnal yn ystod gwyliau'r haf, cyfranogodd nifer o fyfyrwyr Peirianneg Ôl-raddedig Abertawe yn y digwyddiad er mwyn achub ar y cyfle i gwrdd a rhwydweithio ag ymchwilwyr blaenllaw ym maes peirianneg gyfrifiadol a gwrando ar sgyrsiau ganddynt. Mae myfyrwyr o Ganolfan Peirianneg Gyfrifiadol Zienkiewicz y Coleg eisoes wedi elwa'n fawr o'r cydweithrediad.

Rhoddwyd yr anerchiad i gloi'r gweithdy ar y cyd gan yr Athro Roger Owen, Athro Ymchwil mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe sy'n awdurdod rhyngwladol ar dechnegau elfen feidraidd ac elfen arwahanol, a chyfeiriodd at rai o'r heriau y gellir mynd i'r afael â nhw drwy ymchwil. Pwysleisiodd ddulliau dysgu ac addysgu a'r angen i ailwampio'n hagwedd tuag at addysg.

“Rydym wedi gweld datblygiadau mawr ym mhob maes," meddai'r Athro Owen. "Fodd bynnag, nid yw'r dull o addysgu gwybodaeth wedi newid llawer yn ystod y 400 o flynyddoedd diwethaf.

"Rydym yn dal i ddefnyddio ystafelloedd dosbarth lle mae addysgwr yn darlithio myfyrwyr. Mae'n bryd i ni symud ymlaen ac archwilio rhai technegau mwy arloesol ar gyfer addysgu pobl ifanc."

“Rydym yn llawn cyffro am yr ymchwil ar y cyd parhaus rhwng ein dau sefydliad," meddai'r Athro Yuxin Ren, Dirprwy Bennaeth Ysgol Peirianneg Awyrofod Prifysgol Tsinghua.

"Edrychwn ymlaen at groesawu ein cydweithwyr nodedig o Abertawe i Tsinghua ymhen dwy flynedd."

Ychwanegodd yr Athro Chenfeng Li, Cydlynydd Partneriaeth Abertawe-Tsinghua: "Boed i'r berthynas arbennig hon rhwng Prifysgol Tsinghua, prifysgol fwyaf blaenllaw Tsieina, sydd â nerth mawr ym meysydd peirianneg a thechnoleg, a Phrifysgol Abertawe, un o arweinwyr y byd ym maes mecaneg gyfrifiadol, arwain at fwy o lwyddiant byth."

*********************

Anrhydeddu'r Athro Zhuo Zhuang o Brifysgol Tsinghua

Professor Zhuo Zhuang honorary award TsinghuaYr wythnos diwethaf, cryfhawyd y cysylltiadau rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Tsinghua eto pan ddyfarnwyd doethuriaeth er anrhydedd, neu EngD, i'r Athro Zhuo Zhuang, Prif Wyddonydd Rhaglen Ymchwil Gwyddonol Sylfaenol Genedlaethol Tsiena ac Athro yn Ysgol Awyrofod Prifysgol Tsinghua, am ei gyflawniadau neilltuol ym maes peirianneg gyfrifiadol.

Cyflwynwyd yr Athro Zhuang i'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, i dderbyn ei PhD, gan yr Athro Steve Brown, Pennaeth y Coleg Peirianneg, yn ystod Cynulliad Graddio a Gwobrwyo'r Brifysgol ar gyfer y Coleg Peirianneg ddydd Iau, 27 Gorffennaf.

Llun 1: Pedwerydd Gweithdy ar y Cyd Abertawe-Tsinghua mewn Peirianneg Gyfrifiadol.

Llun 2: Yr Athro Zhuang ar y llwyfan yn derbyn ei EngD gyda'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.