Gradd newydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol yn dechrau’r mis Medi hwn – gyda phwyslais ar baratoi graddedigion ar gyfer y gweithle

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig rhaglen israddedig newydd ar gyfer mynediad ym mis Medi, y radd BSc (Anrhydedd) yn y Gwyddorau Cymdeithasol, sydd â phwyslais cryf ar baratoi graddedigion ar gyfer y gweithle.

Singleton Park CampusCynigir y rhaglen israddedig amser llawn newydd hon sy’n dair blynedd o hyd ar Gampws Parc Singleton y Brifysgol. Dyluniwyd y rhaglen hon sy’n amlddisgyblaethol ac yn weithgar ym maes ymchwil, i fyfyrwyr sy’n “chwilfrydig yn gymdeithasol”.   

Ei nod yw datblygu graddedigion sydd â’r sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau, y rhinweddau personol a’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i ddod yn arweinwyr newid cymdeithasol. Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer llawer o yrfaoedd, gan gynnwys ymchwil gwyddor gymdeithasol, gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol, busnes, y Gwasanaeth Sifil, gwasanaethau cyhoeddus, para-gyfreithiol, y system cyfiawnder troseddol, newyddiaduraeth, elusennau, cyrff anllywodraethol,  addysg, a phroffesiynau perthynol i iechyd ymhlith eraill.

Mae’r rhaglen BSc (Anrhydedd) yn y Gwyddorau Cymdeithasol yn tynnu’n eang ar ddisgyblaethau anthropoleg; busnes a rheoli; economeg; daearyddiaeth ddynol; y gyfraith; astudiaethau’r cyfryngau; gwyddor wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol; seicoleg; polisi cymdeithasol a chymdeithaseg, ac mae’n darparu hyblygrwydd drwy gynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol mewn amrywiaeth o bynciau gwyddor gymdeithasol, gan ganiatáu i fyfyrwyr deilwra eu gradd i’w huchelgeisiau gyrfa yn y dyfodol wrth ddatblygu eu diddordebau unigol.

Mae cyflogadwyedd a sgiliau astudio hefyd yn rhan annatod o’r rhaglen Gwyddorau Cymdeithasol, ac agwedd unigryw ar y radd yw ei phwyslais ar baratoi ar gyfer y gweithle, gyda’r holl fyfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau lleoliad gwaith ym mlynyddoedd dau a thri’r rhaglen mewn sefydliadau megis awdurdodau lleol, busnesau, lleoliadau gofal iechyd, lleoliadau addysg ac elusennau.

Meddai rheolwr y rhaglen, Dr Susanne Darra, Athro Cyswllt yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a Chyn-bennaeth Addysg Bydwreigiaeth: “Rydym yn edrych ymlaen at ychwanegu’r radd BSc (Anrhydedd) yn y Gwyddorau Cymdeithasol at bortffolio’r Coleg ar gyfer y mis Medi hwn, ac fe’i hanelir at bobl sydd â diddordeb mewn materion cymdeithasol.

“Caiff y rhaglen ei haddysgu gan arbenigwyr arloesol sydd â chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol cryf. Bydd yn rhoi sylfaen gadarn i fyfyrwyr mewn damcaniaethau cyfoes a modelau cysyniadol ym maes y gwyddorau cymdeithasol a byddant yn datblygu sgiliau ymchwil sy’n angenrheidiol er mwyn gwerthuso’n feirniadol arferion a pholisïau presennol, a fydd wedyn yn llywio datblygiad polisïau yn y dyfodol mewn amgylchedd gwleidyddol a chymdeithasol sy’n newid yn gyflym. Caiff myfyrwyr eu haddysgu i ddefnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymwybyddiaeth feirniadol i ddeall a mynd i’r afael â materion cymdeithasol a phroblemau yn y byd go iawn. 

“Byddem yn annog yn gryf unrhyw un sydd â diddordeb a darpar-fyfyrwyr ar gyfer mynediad ym 2017 i ddod i un o Ddiwrnodau Agored y Brifysgol i ganfod mwy. Rwyf hefyd yn hapus i ymweld ag ysgolion a cholegau i ddarparu rhagor o wybodaeth i athrawon a myfyrwyr trwy sesiwn ryngweithiol sy’n awr o hyd.”

Am ragor o wybodaeth am y radd BSc (Anrhydedd) yn y Gwyddorau Cymdeithasol, gan gynnwys gofynion mynediad, ewch i: http://www.swansea.ac.uk/undergraduate/courses/human-and-health-sciences/bschonssocialsciences/, ac i gadw lle ar y Diwrnod Agored nesaf i Israddedigion ewch i: http://www.swansea.ac.uk/open-days/.