Ffisegwyr o Abertawe’n mynychu cyfarfod ym Mhalas Buckingham

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae dau ffisegwr o Brifysgol Abertawe wedi ymweld â Phalas Buckingham er mwyn helpu i feithrin cysylltiadau rhwng gwyddonwyr yn y DU a Tsiena.

Buckingham Palace stock shotGwahoddwyd yr Athro Carlos Nunez a’r Athro Gert Aarts, sy’n aelodau o’r Grŵp Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg  yn Adran Ffiseg  y Coleg Gwyddoniaeth  i fynychu cyfarfod gyda Dug Efrog, y Tywysog Andrew, a Llywydd Academi’r Gwyddorau yn Tsiena, yr Athro Chunli Bai, ym Mhalas Buckingham.

Trefnwyd y cyfarfod ar y cyd â’r Gymdeithas Frenhinol a’i nod oedd tynnu sylw at yr amryw gynlluniau a gynigir gan Academi’r Gwyddorau yn Tsiena er mwyn cysylltu ymchwilwyr a leolir yn y DU a Tsiena.


Meddai’r Athro Nunez: "Mae’n ddiddorol iawn gweld diddordeb Tsiena mewn hyrwyddo gwyddoniaeth dda a’r cyllid sydd ar gael i gyflawni hyn. Mae’r cynlluniau’n cynnig cyfleoedd ardderchog i fyfyrwyr PhD, myfyrwyr ôl-ddoethurol ac aelodau staff parhaol."

Meddai’r Athro Aarts: "Rwyf wedi ymweld â Tsiena sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n wlad amrywiol iawn sydd yn sicr yn werth ei harchwilio. Mae gwyddonwyr yn awyddus iawn i wneud cysylltiadau ac mae myfyrwyr yn awyddus i ddysgu mwy am y DU. Rwyf yn annog ymchwilwyr i ymweld â Tsiena a gobeithiaf y bydd y cyfleoedd ariannu hyn yn llwyddiannus."

Ceir rhagor o wybodaeth am gynlluniau CAS yma