Cyfleuster newydd sydd ar flaen y gad i Gymru a thu hwnt

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw (6 Rhagfyr), cafodd cyfleuster newydd sbon Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer dadansoddi gwyddonol ei agor yn swyddogol ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC.

Lleolir cyfleuster newydd y Gwasanaethau Dadansoddi yn adeilad Faraday, ac mae’n cynnwys mwy na 30 o staff proffesiynol a phrofiadol sy’n cynnal gwaith dadansoddi a phrofion amgylcheddol hanfodol i CNC, fel profi ansawdd dŵr ein traethau bob haf.

Caiff y cyfleuster ei achredu gan UKAS, y corff achredu cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Ymhellach, mae cyfleuster y Gwasanaethau Dadansoddi yn awyddus i gynnig y gwasanaethau y mae’n eu darparu i CNC i gwsmeriaid ehangach yng Nghymru a thu hwnt.

Meddai Dave Gazzard, Rheolwr y Gwasanaethau Dadansoddi yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Bydd ein cyfleuster newydd sydd o safon fyd-eang yn helpu ein staff gyda’r gwaith pwysig a wnawn yn Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, economi ac amgylchedd Cymru.

“Er enghraifft, rydym yn profi mwy na 2,000 o samplau o ddyfroedd ymdrochi a gesglir gan ein staff bob blwyddyn. Rydym yn monitro mannau lle y gall problemau fod, ac yn helpu i wneud yn siŵr fod y dyfroedd sydd ar ein traethau’n ddiogel inni nofio ynddynt.

“Hefyd, rydym yn ymchwilio i ddigwyddiadau, fel safleoedd gwastraff anghyfreithlon a llygredd, fel y gallwn daclo gweithgareddau anghyfreithlon.

“Gyda’n cyfleuster newydd anhygoel, fe fyddwn nid yn unig yn gallu bodloni anghenion y presennol a’r cynnydd yn y dyfodol, ond hefyd fe fyddwn yn gallu cynnig cyfleoedd di-ben-draw ar gyfer cynnal mentrau ymchwil ar y cyd gyda CNC a Phrifysgol Abertawe.”

NRW laboratory

Bydd y sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i wella ansawdd a maint y dystiolaeth a ddefnyddir i gyfarwyddo penderfyniadau CNC a chaniatáu i staff a myfyrwyr y Brifysgol chwarae rhan bwysig yn y dasg o siapio amgylchedd Cymru mewn ffordd gadarnhaol.

Meddai Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr Amgylcheddol: “Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yn mynnu ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o weithio. Mae hyn yn cynnwys gwahanol sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i’n helpu i gyrraedd ein nod o wella gwytnwch ein hecosystemau a llesiant y genedl.

“Mae’r fenter hon rhwng CNC a Phrifysgol Abertawe yn arddangos yr uchelgais gydweithredol hon ac yn cynnig cyfleoedd gwaith gwerthfawr i Dde Orllewin Cymru.”

Meddai’r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae gan Brifysgol Abertawe gymuned ryngwladol fywiog o gadwraethwyr, biowyddonwyr, biobeirianwyr a chemegwyr.

“Bydd partneriaeth y Brifysgol gyda CNC, ynghyd â’n hadran gemeg newydd, yn darparu cydweithrediad ac yn gwella ein gallu i feithrin a diogelu’r amgylchedd er budd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

“Mae’r cydweithio hwn rhwng corff a noddir gan y Llywodraeth a’r Brifysgol yn enghraifft dda o’r ffordd y gall Cymru weithio fel gwlad ‘fechan, ddoeth ac ystwyth’.”