BLOODHOUND yn barod i fynd ym mis Hydref!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd car rasio llinell syth mwyaf datblygedig y byd, BLOODHOUND SSC, yn cael ei yrru am y tro cyntaf ym maes awyr Cernyw, Ceinewydd, ym mis Hydref eleni, 20 mlynedd ar ôl i'r record gyfredol o 763.035 mya cael ei gosod.

Yr Asgell-gomander Andy Green a lywiodd Thrust SCC i fuddugoliaeth ar 15 Hydref 1997 ac ef fydd wrth lyw BLOODHOUND SSC yr hydref hwn.

Yn ogystal â bod yn un o noddwyr cyntaf BLOODHOUND SSC, mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl hollbwysig yn llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, gan ddarparu technoleg allweddol ers y diwrnod cyntaf yn nyddiau cynnar y cysyniad yn ôl yn 2007.

Prif gyfraniad Prifysgol Abertawe at y fenter i adeiladu car rasio ar dir a fydd yn cyrraedd 1,000myh (1,609km/yr awr) fu ei harbenigedd ym maes ymchwil Deinameg Hylifau Gyfrifiadurol, a bu ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe'n gweithio fel rhan o dîm dylunio aerodynameg y car uwchsonig.

BLOODHOUND SSC

Bydd y treialon ar y rhedffordd yn yr hydref yn nodi uchafbwynt mis o brofion i brofi llyw, breciau, hongiad a systemau data'r car, yn ogystal â'r injan jet EJ200, sef yr un injan sydd yn yr awyren Eurofighter Typhoon. Disgwylir i filoedd o ymwelwyr ddod i weld hanes yn cael ei greu wrth i BLOODHOUND SSC gael ei yrru ar gyflymderau o hyd at 200mya ar y rhedffordd 1.7 milltir (2.7km) o hyd.

Cyn iddo symud dan ei bŵer ei hun, bydd BLOODHOUND SSC yn destun sawl diwrnod o brofion heb symud yn gyntaf. Bydd yr injan jet yn rhedeg, a'r car wedi'i gadwyno i'r llawr, fel y gellir gwirio perfformiad mewnlif aer, defnydd tanwydd a systemau trydanol y car. Os bydd popeth yn iawn, cynhelir profion dynamig wedyn.

O ddiddordeb pennaf y mae gallu mewnlif yr injan jet, sydd uwchben sedd y gyrrwr, ar gyflymder isel. Dyluniwyd yr injan i weithio orau ar gyflymderau dros 800mya, felly mae angen i'r peirianwyr ddeall sut mae'n perfformio ar gyflymderau isel iawn.
 
Bydd gwybod pa mor fuan y gellir defnyddio pŵer llawn yn lleihau'r risg hon, a bydd data cyflymu 'byd go iawn' yn galluogi Ron Ayers, y Prif Aerodynamegwr, i gynllunio'r gyfres o dreialon yn Ne Affrica, pan obeithir gosod record newydd.

Yn y treialon yn Ngheinewydd hefyd, caiff Andy Green ei gyfle cyntaf i yrru'r car a phrofi teimlad y llyw, gweithrediad y throtl a'r breciau, y sŵn a'r dirgrynu - pethau nad oes modd eu hefelychu.

Mae angen tîm i redeg BLOODHOUND SSC a hwn fydd y cyfle cyntaf i hyfforddi'r tîm cefnogi, yn ogystal â datblygu gweithdrefnau gweithredu'r car, profi a mireinio'r protocolau diogelwch, ac i ymarfer cyfathrebu radio cyn teithio dramor ar ddiwedd 2018.

Yn ystod y profion, caiff y car ei bweru gan yr injan jet yn unig a bydd yn defnyddio olwyni â theiars niwmatig, 84cm ar eu traws, o awyren English Electrig Lightning, wedi'u haddasu'n arbennig gan Dunlop. Oherwydd bod yr olwynion a'r hongiad ar y rhedffordd ychydig yn fwy trwchus na'r olwyni alwminiwm solid a ddefnyddir yn y diffeithwch, ni chaiff rhai rhannau o'r corff ffibr carbon eu ffitio.

Meddai Richard Noble, Cyfarwyddwr y Prosiect: "Y treialon ar redffordd Maes Awyr Cernyw yng Ngheinewydd fydd y garreg filltir fwyaf yn hanes y prosiect hyd yn hyn. Byddant yn darparu data pwysig ar berfformiad y car ac yn rhoi cyfle cyntaf i ni ymarfer y gweithdrefnau byddwn yn eu defnyddio yn ein hymdrech i dorri'r record.

"Ac, yr un mor bwysig, mae'n ffordd o ddiolch i'r ysgolion, y myfyrwyr, y teuluoedd a'r cwmnïau bach a mawr sy'n cefnogi'r prosiect. Rydym yn falch o chwifio baner dros sgiliau ac arloesi Prydeinig ar lwyfan byd-eang ond, yn bwysicaf oll, rydym yn gwneud hyn er mwyn ysbrydoli pobl ifanc.

"Y llynedd yn unig, buom yn ymgysylltu'n uniongyrchol â thros 100,000 o fyfyrwyr yn y DU, ac rydym eisoes wedi gweld rhagor o fyfyrwyr yn astudio peirianneg o ganlyniad i Brosiect BLOODHOUND. Gyda'r car yn rhedeg, gallwn arddangos gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn y ffordd fwyaf cyffrous bosib. Bant â BLOODHOUND!"
 
Meddai Gavin Poole, Cadeirydd bwrdd Aerohub Enterprise Zone ac aelod o fwrdd Partneriaeth Menter Leol Cernyw ac Ynysoedd Sili: “Mae tîm BLOODHOUND eisoes wedi bod yn defnyddio Aerohub i brofi cydrannau, felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r car cyfan.

"Bydd yn gyffrous iawn gweld peirianneg, aerodynameg a chyfrifiadureg o safon fyd-eang yn pweru injan jet ar gyflymder uchel. Mae BLOODHOUND yn brosiect ysbrydoledig sy'n manteisio i'r eithaf ar gyfleusterau arbrofi rhagorol Cernyw.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu tîm BLOODHOUND."