Ymweliad Aelodau Cymdeithasau Gefeillio’r Mwmbwls–Hennebont â’r Brifysgol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gefeilldrefi’n rhannu diwylliant, golygfeydd a gwybodaeth yn ystod taith o Gampws y Bae.

Mumbles-Hennebont

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Croesawodd Prifysgol Abertawe aelodau’r Gymdeithas Efeillio o’r Mwmbwls a  Hennebont, sy’n agos i Lorient yn Ne Llydaw, Ffrainc, i’w champws gwyddoniaeth ac arloesi newydd sy’n werth £450m, Campws y Bae, yr wythnos hon (dydd Mercher, Medi 7).

Ymwelodd tri aelod ar ddeg o westeion o’r dref farchnad hanesyddol Hennebont, gan gynnwys ei Maer Mr André Hartereau a’i wraig Marguerite, â’r Brifysgol yn rhan o’u hymweliad cyfnewid blynyddol ag aelodau o  Gymdeithas Efeillio’r Mwmbwls .

Roedd Maer Hennebont yn awyddus i ddysgu am gampws mawreddog y Bae, a agorodd ym mis Medi 2015, a’r modd y mae wedi’i ddatblygu.  

Meddai: “Mae tebygrwydd academaidd diddorol rhwng Abertawe a’n dinas leol, Lorient. Yn debyg iawn i Abertawe, mae Prifysgol De Llydaw, sydd â champws yn Lorient, yn rhoi pwyslais arbennig ar arloesi, er enghraifft, datblygu llwyfannau technolegol newydd gan ddefnyddio deunyddiau perfformiad uchel, yn ogystal ag ymchwil sy’n torri tir newydd, partneriaethau â diwydiant a throsglwyddiadau technoleg.”

Roedd staff a myfyrwyr sy’n siarad Ffrangeg o Goleg Peirianneg y Brifysgol ymhlith y rhai a groesawodd y gwesteion i’r Brifysgol yn ystod yr ymweliad, a oedd yn cynnwys sgyrsiau Peirianneg manwl, yn ogystal â thaith o gwmpas Peirianneg Ganolog, yr Ysgol Reolaeth, llyfrgell y Bae a llety’r myfyrwyr a daeth yr ymweliad i ben gyda chinio yn Neuadd Fawr eiconig y campws.

Meddai Bertrand Rome, o Frwsel, myfyriwr PhD sy’n arbenigo mewn Peirianneg Ddeunyddiau: "Mwynheais i’n fawr rhannu fy syniadau a’m profiad o’m blwyddyn gyntaf fel myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe â’r ddwy gymdeithas efeillio."

Meddai Dr Sam Rolland, o Rennes, Llydaw, Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol: “Roedd yn wych cael cyfle i gyfrannu at gynllun cyfnewid diwylliannol y gymuned. Fel Llydäwr fy hun, roeddwn i’n teimlo’n rhan o’r ddwy ochr; a gwnes i wir fwynhau’r rhyngweithio a’r ffordd yr oedd yr ymwelwyr yn ymddiddori yn yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y Coleg Peirianneg.”

Meddai David Townsend Jones, Cadeirydd Cymdeithas Gyfeillio’r Mwmbwls: “Bu trefnu’r daith o amgylch Campws newydd y Bae yn Abertawe i’n gwesteion o Hennebont yn llwyddiant ysgubol i ni. Hefyd, i lawer ohonom sy’n byw’n lleol, mae’n gyfle hirddisgwyliedig i edrych yn agos iawn ar y campws newydd yn hytrach na fel presenoldeb newydd yn y pellter ar ochr arall y bae!”

Mae Hennebont - neu Henbont mewn Llydaweg - yn dref farchnad hanesyddol â rhyw 15,000 o bobl, wedi’i gefeillio â’r Mwmbwls ers 2004.  Dathlodd Cymdeithasau Gefeillio’r Mwmbwls-Hennebont eu dengmlwyddiant y llynedd.