Ymchwil newydd yn Abertawe yn amlygu pwysigrwydd hydradu eich hun yn dda

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae erthygl a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, 10 Awst 2016) yn y cyfnodolyn, American Journal of Clinical Nutrition, gan yr Athro David Benton a'i dîm yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe, wedi amlygu pa mor bwysig yw bod pawb yn hydradu eu hunain yn dda.

Mae ymchwil blaenorol yn y maes hwn wedi canfu bod colled o hyd at 2% o fàs y corff drwy golli dŵr yn creu effeithiau amlwg ar eich gallu i weithredu'n iawn.  Byddai hyn yn berthnasol i athletwyr sy'n gwneud gweithgarwch egnïol am gyfnod hir neu rywun sydd wedi mynd heb hylifau am sawl diwrnod.

Drinking water ‌Mae'r ymchwil newydd hwn wedi mynd cam ymhellach, gan archwilio sut gallai lefelau llawer is o golli dŵr - y byddem i gyd yn eu profi yn ein bywyd beunyddiol - effeithio arnom. 

Dywedodd yr Athro Benton am yr astudiaeth, "Dŵr yw tua 60% o'n cyrff, ac mae'r lefel hon yn amrywio drwy'r amser, yn bennaf drwy golli dŵr ar ffurf wrin a chwys.

"Mae ein hymchwil wedi canfod bod colli 0.6% yn unig o fàs y corff yn creu effeithiau amlwg ar gof, sylw a hwyliau unigolyn."

Profodd yr astudiaeth gof a hwyliau'r cyfranogwyr cyn ac ar ôl eistedd am bedair awr mewn ystafell wedi'i gwresogi i 30oC, a chanfuwyd cyfatebiaeth uniongyrchol rhwng newid mewn lefel hydradiad unigolyn a'i berfformiad mewn profion cof a hwyliau.

Yn yr astudiaeth hon, a gofnododd lefelau màs corff cywir o fewn 5g, daeth y cyfranogwyr yn llai hapus a theimlent y byddai'r tasgau a roddwyd iddynt yn fwy anodd eu cwblhau, wrth i'w lefelau dŵr ostwng.

David Benton - Hydration 2 Llun: y grŵp ymchwil o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd - Alecia Cousins, Hayley Young, a'r Athro David Benton.

Pan oedd y boblogaeth yn chwysu mewn tymereddau dros 34oC y mis diwethaf a chyda thywydd yr haf yn parhau yn yr ugeiniau isel i ganolig, meddai'r Athro Benton, "Mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn ein hydradu'n hunain yn dda i sicrhau y gallwn barhau i weithredu'n effeithiol, a'n bod yn gallu mwynhau tywydd yr haf! Wrth i dymereddau godi, mae'n debygol y byddwn yn colli dŵr yn gyflymach ac y bydd angen i ni yfed yn fwy rheolaidd i gynnal y lefelau.

Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant a allai ddibynnu ar bobl eraill i nôl diod iddyn nhw. Maen nhw'n colli dŵr yn gynt nag oedolion, gan fod arwyneb eu croen yn fwy mewn perthynas â maint eu cyrff, ac maen nhw'n tueddu i chwysu'n fwy drwy weithgarwch rheolaidd. 

"Yn gyffredinol, rydym ni fel cenedl yn ein hydradu ein hunain yn dda. Fodd bynnag, wrth i ni heneiddio, gall ein synnwyr syched leihau a gall ein harennau, sy'n rheoli lefelau hydradiad, weithio'n llai effeithiol.  Mae'n bwysig cadw llygad ar yr hyn rydym yn ei yfed, ni waeth a oes syched arnom ai peidio, a sicrhau ein bod yn cael digon i'w yfed drwy gydol y dydd."

Mae'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd yn argymell bod dynion yn yfed 2.5 litr o ddŵr y dydd a bod menywod yn yfed 2 litr o ddŵr y dydd, drwy fwyd a diod. Os nad ydych yn siŵr a ydych chi wedi cael digon, gall lliw eich wrin fod yn arwydd da - os yw'n glir neu'n felyn golau, mae'n debygol eich bod wedi eich hydradu'n dda. Os yw'n felyn tywyll neu'n felyngoch, mae'n bosib eich bod yn ddadhydredig a bod angen dŵr arnoch.

I ddarllen rhagor am yr astudiaeth hon, cliciwch yma.