Sgwrs y Brifysgol yn canolbwyntio ar gydraddoldeb ac amrywiaeth o amgylch y byd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal Seminar Grŵp Mary Williams yn hwyrach y mis hwn a fydd yn canolbwyntio ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth o amgylch y byd.

Professor Jane Hill

Siaradwr: Yr Athro Jane Hill, Athro Ecoleg, Adran Fioleg ym Mhrifysgol Caerefrog.

Dyddiad: Dydd Gwener 24 Mehefin 2016

Amser: 11.30am tan 1.30pm

Lleoliad: Yr Hyb yn Sefydliad Gwyddorau Bywyd 2 (ILS2)

Yn ystod y seminar, bydd yr Athro Hill yn rhoi ei safbwynt personol ar fynd i’r afael â materion cydraddoldeb rhwng y rhywiau a sut daeth ei hadran i fod adran Brifysgol gyntaf y DU i dderbyn gwobr Aur Athena SWAN. Sefydlwyd Siarter Uned Her Cydraddoldeb Athena SWAN yn 2005 ac, erbyn hyn, mae’n annog ac yn cydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod ym myd addysg uwch ac ymchwil. Er bod yr Athro Hill yn ecolegydd academaidd, yn 2008, daeth yn hyrwyddwr Athena SWAN yr Adran Fioleg ac arweiniodd gais llwyddiannus ei hadran am wobr Aur yn 2014 gan hefyd helpu i lunio cais diweddar Prifysgol Caerefrog i adnewyddu ei gwobr Efydd yn ddiweddar.

O ganlyniad i newidiadau yn strwythur a strategaeth Prifysgol Caerefrog, y mae rôl Athena SWAN yr Athro Hill wedi cael ei hymestyn ac, erbyn hyn, mae’n Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr adran hefyd a, chyn hir, bydd yn gyfrifol am Athena SWAN yn y gyfadran Gwyddoniaeth.

Mae Grŵp Mary Williams Prifysgol Abertawe yn rhwydwaith o fenywod mewn uwch swyddi o bob adran ar draws y Brifysgol. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, o’r enw, “Equality and Diversity: To Australia and back”

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, mae croeso i bawb a darperir cinio.