Prosiect Lleisiau Bach yn dathlu llwyddiant ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig fabwysiadu nifer o'i argymhellion

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhaliwyd digwyddiad diwedd y flwyddyn i ddathlu prosiectau de Cymru'r fenter Lleisiau Bach yr wythnos hon (dydd Mercher, 6 Gorffennaf) ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, wedi'i drefnu gan yr Ysgol Reolaeth.

Lleisiau Bach 1Daeth tua 100 o blant rhwng 7 ac 11 oed a'u hathrawon o 12 ysgol wahanol ar draws de Cymru i'r digwyddiad, ynghyd â gwesteion gwadd gan gynnwys Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; Llysgennad Cymunedol yr Elyrch, Lee Trundle; a swyddogion o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rheolir prosiect Lleisiau Bach, sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr, gan Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Mae'n brosiect cydweithredol â phartneriaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a lansiwyd yn 2012.

Mae Lleisiau Bach yn cefnogi plant dan 12 oed i ddeall hawliau dynol plant a phobl ifanc, i ddewis materion maent yn awyddus i ymchwilio iddynt, i ddewis dulliau ymchwil, i gynnal yr ymchwil, i lunio casgliadau ar sail tystiolaeth ac wedyn i hyrwyddo'r newidiadau yr hoffent eu gweld.

Lleisiau Bach 2Mae'r ysgolion sy'n  cymryd rhan drwy'r Arsyllfa yn Abertawe'n cynnwys: Ysgol Gynradd Bryngwyn ac Ysgol Gynradd Stryd y Frenhines (Blaenau Gwent); Ysgol Gynradd Awel y Môr ac Ysgol Gynradd Crynallt (Castell-nedd Port Talbont); Ysgol Gynradd Pil, Ysgol Gynradd Garth ac Ysgol Gynradd Nant-y-moel (Pen-y-bont ar Ogwr); Ysgol Gynradd Crinant (Caerffili); Ysgol Gynradd Albert (Bro Morgannwg); Ysgol Gymunedol Doc Penfro; Ysgol Gynradd Deri View ac Ysgol Gymraeg y Fenni (Sir Fynwy); ac Ysgol Gynradd Blaen-gwawr (Rhondda Cynon Taf).

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Marc Clement, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth, ac roedd y rhaglen yn cynnwys taith o Gampws y Bae, yn ogystal ag arddangosfa a dangosiad cyntaf ymchwil a ffilmiau y plant eu hunain, a gweithdai gydag ymchwilwyr academaidd yn y meysydd amrywiol sy'n berthnasol i waith y plant: yr amgylchedd, iechyd a lles plant, hawliau plant a'r amgylchedd.

Ymhlith y llwyddiannau a ddathlwyd roedd canlyniadau'r adroddiad Lleisiau Bach yn Galw Allan a gyhoeddwyd y llynedd.  Hwn oedd yr adroddiad ymchwil cyntaf i gael ei arwain gan blant i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Ngenefa. Dros y tair blynedd nesaf, bydd yn ysgogi 72 o brosiectau ymchwil lleol i hawliau dynol a arweinir gan blant.

Bu Helen Dale ac Arwyn Roberts, cynorthwywyr ymchwil o Abertawe a Bangor, yn gweithio'n agos gydag ysgolion ledled Cymru i baratoi'r adroddiad.

Cyhoeddwyd Arsylwadau Terfynol y Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn yn y DU y mis diwethaf (dydd Iau, 9 Mehefin) ac roedd yn bleser mawr gan brosiect Lleisiau Bach ddysgu bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu nifer o argymhellion y plant yn llawn, gan gynnwys yr argymhellion ar barciau di-fwg, addysg ar hawliau plant mewn ysgolion, bwlio a chwarae. Gellir darllen yr Arsylwadau Terfynol yn llawn yma.

‌Meddai Jane Williams, Athro Cysylltiol a Chyd-gyfarwyddwr Arsyllfa Cymru ar  Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc a leolir yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, "Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghymru ac yn y byd: plant dan 12 oed yn arwain eu hymchwil eu hunain ac yn anfon eu hargymhellion eu hunain i gorff rhyngwladol sy'n monitro cytundebau ar hawliau dynol.

"Yn well byth, rydym yn gweld effaith eu gwaith, nid yn unig yn y Casgliadau Terfynol, ond hefyd yn ardaloedd lleol y plant eu hunain hefyd.

"Yn ogystal â dathlu llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, rwy'n hyderus y bydd y digwyddiad hwn, yn nodi dechrau rhagor o ymchwil oedran-gynhwysol gan Abertawe a'i phartneriaid niferus, wrth i bobl ddod yn ymwybodol o allu plant fel ymchwilwyr pan ddarperir y cymorth cywir iddynt."

‌Ychwanegodd yr Athro Marc Clement, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth: "Roeddem yn falch o groesawu digwyddiad Lleisiau Bach i Brifysgol Abertawe.  Mae ymchwil wrth wraidd ein holl weithgareddau yn yr Ysgol Reolaeth, felly roeddwn wrth fy modd yn gweld brwdfrydedd a sgil yr ymchwilwyr ifanc hyn mor gynnar yn eu gyrfaoedd. 

"Mae'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu gan y prosiect hwn i'r myfyrwyr hyn yn wych, a gallwn edrych ymlaen at y cenedlaethau hyn yn darparu arloesedd a syniadau gwerthfawr wrth iddynt dyfu a datblygu."

Mae digwyddiad Lleisiau Bach Abertawe'n dilyn digwyddiad tebyg a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher 29 Mehefin i ddathlu prosiectau gogledd Cymru.