Prifysgol Abertawe yn derbyn naw enwebiad ar gyfer gwobrau WhatUni, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe, enillydd Gwobr Prifysgol y Flwyddyn WhatUni 2014, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Prifysgol Orau eto eleni, yn ogystal ag wyth categori arall.

‌Mae graddfeydd WhatUni yn seiliedig ar gyfartaledd miloedd o adolygiadau a gyflwynir gan fyfyrwyr, ac fe’u cyhoeddir ar wefan WhatUni.com. Mae’r gwobrau yn cynnwys deg categori, sef: Llety, Bywyd yn y Ddinas, Clybiau a Chymdeithasau, Cyrsiau, Rhagolygon Swyddi, Undeb Myfyrwyr, Cyfleusterau’r Brifysgol, Cefnogaeth Myfyrwyr, Prifysgol y Flwyddyn. Mae’r categori Rhyngwladol yn seiliedig ar y radd gyffredinol a roddir gan fyfyrwyr rhyngwladol ym mhob prifysgol.

Enwebwyd Prifysgol Abertawe yn y categorïau canlynol:

  • Prifysgol y Flwyddyn
  • Cefnogaeth i fyfyrwyr
  • Rhagolygon Gyrfa
  • Undeb Myfyrwyr
  • Clybiau a Chymdeithasau
  • Cyfleusterau’r brifysgol
  • Llety
  • Clybiau a Chymdeithasau
  • Rhyngwladol

‌Mae’r graddfeydd newydd yn cynnig dull amgen, diduedd dan arweiniad myfyrwyr i ddarpar fyfyrwyr gael barn ar brifysgolion na’r systemau traddodiadol sy’n mesur barn ar brifysgolion. Eleni cafodd 25,000 o adolygiadau eu cyfrif; fe wnaeth 125 o brifysgolion gwrdd â'r trothwy lleiaf i gael eu hystyried ar gyfer Gwobr Dewis y Myfyrwyr; a chafodd 39 o brifysgolion eu henwebu.

WhatUni 2016 logoMeddai Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol rhiant-gwmni Whatuni.com, Grŵp Hotcourses, "Mae Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni yn ysbrydoli ac yn arwain myfyrwyr o bob cefndir i ddewis y brifysgol gywir iddyn nhw. Gyda chanlyniadau 2016 mor fuan ar ôl y Papur Gwyrdd a'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddewis myfyrwyr, rhagoriaeth addysgu a symudedd cymdeithasol, dyma'r amser pwysicaf erioed i gasglu a dadansoddi cyfraddau bodlonrwydd myfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig.

Rydym yn hynod falch o'r gwaith mae ein tîm wedi'i gyflawni er mwyn creu safleoedd eleni, sy'n cynnwys pedwar sefydliad newydd ar ddeg a thwf o 25% ym maint y sampl, wrth i ragor o fyfyrwyr ddarganfod pwysigrwydd eu llais eu hunain o ran newid polisi, nid yn eu sefydliad nhw yn unig, ond ar draws y sector cyfan."

Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni mewn seremoni yn Llundain ar 14 Ebrill.

Cliciwch yma i weld y rhestrau byr llawn.