Prifysgol Abertawe'n cefnogi digwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bywyd ar ôl tanwyddau ffosil, bywyd ar ôl ennill gwobr lenyddol o fri, a bywyd mewn teulu a ysbrydolodd Game of Thrones - dyma rai o'r pynciau sy'n cael eu harchwilio mewn digwyddiadau a noddir gan Brifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli.

Am y tro cyntaf, mae'r brifysgol yn cynnal cyfres o bedair darlith a digwyddiadau eraill yn yr ŵyl lenyddol fyd-enwog sy'n dechrau ddydd Iau (26 Mai).

Meddai'r Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, "Mae Gŵyl y Gelli yn un o wyliau llenyddol mwyaf nodedig y byd ac rydym yn falch bod y bartneriaeth hon yn tanlinellu ymrwymiad y brifysgol i fywyd diwylliannol Cymru."

Yn un o'r darlithoedd, i'w chynnal ddydd Sadwrn, 4 Mehefin, bydd Max Porter (isod), enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2016, a ddyfarnwyd y mis hwn, yn trafod ei lyfr, Grief is the Thing with Feathers.

Max Porter ‌Ddydd Sul (29 Mai), bydd Claire Vaye Watkins, a enillodd yr un wobr yn 2013 gyda'i chasgliad o straeon byrion, Battleborn, yn siarad am ei nofel gyntaf, Gold Fame Citrus, a leolir yn ne-orllewin America dystopaidd sydd wedi troi'n ddiffeithdir.

Cadw diwylliant y meysydd glo yw thema After Coal, ffilm am unigolion ysbrydoledig sy'n adeiladu dyfodol newydd yn nwyrain Kentucky a de Cymru.

Ar ôl i'r ffilm cael ei dangos ddydd Gwener (27 Mai), caiff ei thrafod gan y bobl a fu'n ymwneud â'r prosiect, gan gynnwys Hywel Francis, a sefydlodd Lyfrgell Glowyr De Cymru ar gampws y Brifysgol, a'r ffilmiwr o Gymru, Richard Greatrex. Ar ôl y panel, i'w gadeirio gan yr athro hanes diwylliannol, Dai Smith, bydd Frank Henessey ac Iolo Jones yn perfformio caneuon gwerin Cymreig a cherddoriaeth Appalachaidd.

Roedd Alessandro de Medici yn un o'r ffigurau allweddol yn y brwydrau dros bŵer yn Florence yng nghyfnod y Dadeni. Bydd Catherine Fletcher, Athro Cysylltiol Hanes a'r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, yn taflu goleuni newydd ar ei gynnydd a'i gwymp, yn erbyn cefndir o ryw, ysbiwyr, fendeta a brad, yn ei llyfr newydd, The Black Prince of Florence: The Spectacular Life and Treacherous World of Alessandro de Medici. Bydd hi'n trafod y gwaith ddydd Sadwrn, 4 Mehefin.

Fflur DafyddBydd ysgrifenwyr a phobl eraill sy'n gysylltiedig â Choleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn yr ŵyl hefyd.

‌Ddydd Sul (29 Mai), bydd Dr Fflur Ddafydd (chwith) yn cyflwyno rhagolwg o'i ffilm gyntaf, Y Llyfrgell, cyn iddi gael ei rhyddhau yn y DU yr hydref hwn. Y cyfarwyddwr yw Euros Lyn, enillydd BAFTA, a weithiodd ar Happy Valley a Broadchurch.

Ddydd Gwener (27 Mai), bydd yr Athro Creadigrwydd, Owen Sheers, yn ymuno ag ysgrifenwyr, artistiaid a ffotograffwyr i ddathlu rhifyn cyntaf The Keep, cylchgrawn llên a'r celfyddydau newydd Gŵyl y Gelli.

Yn ogystal, bydd Dr Alan Bilton a Dr Jasmine Donahaye, o'r Adran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, yn cymryd rhan yn Writers at Work, partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, lle bydd ysgrifenwyr a ddetholwyd yn mynychu dosbarthiadau meistr ac yn cwrdd â chyhoeddwyr ac asiantau rhyngwladol.

Cynhelir Gŵyl y Gelli rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma.