Naid sylweddol i’r Brifysgol yn nhablau The Guardian

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cael llwyddiant yn y Guardian University Guide diweddaraf. Mae’r Brifysgol wedi codi 13 safle i safle 39 yn y DU, sef y naid fwyaf gan brifysgol yng Nghymru.

‌Mae’r safle newydd hwn yn nodi datblygiad rhyfeddol gan y Brifysgol, sydd wedi gweld cynyddiad o 45 safle mewn chwe mlynedd (o safle 94 yn 2012 i 39 yn 2017).

Mae nifer o feysydd pwnc y Brifysgol wedi cyrraedd y lefelau uchaf:

  • Troseddeg yw’r gorau yn y DU.
  • Mae Polisi Cymdeithasol, Astudiaethau Americanaidd, Cyfrifiadureg ac Astudiaethau Cyfryngau a Ffilm yn ymddangos yn y 10 uchaf.
  • Ymhlith yr 20 uchaf yn y DU, mae Gwyddor Chwaraeon, Gwaith Cymdeithasol, Mathemateg, Peirianneg, Nyrsio a Bydwreigiaeth, Meddygaeth a Pheirianneg Cemegol. 

Guardian University League TableMae hyn yn gadarnhad pellach o statws cynyddol y Brifysgol, sydd wedi gweld cynyddiad mewn tablau cynghrair dros y misoedd diwethaf. Ym mis Ionawr eleni, cyrhaeddodd y brifysgol rhestr The Times Higher Education (THE) o'r 200 o brifysgolion 'mwyaf rhyngwladol'. Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod disgyblaethau Peirianneg ymhlith y gorau yn y byd o hyd yn ôl yr arbenigwyr data addysg uwch, QS. Mis yn ddiweddarach, enillodd y brifysgol Gwobr WhatUni am y Cyrsiau a’r Darlithwyr Gorau, a chyrhaeddodd y Brifysgol y 50 uchaf yn y Complete University Guide.

Medai’r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy-Is-ganghellor: “Mae tablau cynghrair y Guardian yn gosod Prifysgol Abertawe yng nghwmni rhai o sefydliadau elitaidd y DU. Mae'r safleoedd hyn yn adlewyrchiad bod Prifysgol Abertawe yn sefydliad wedi’i arwain gan ymchwil, sy’n darparu safon addysgu heb ei ail, ac sy’n cynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr o’r DU a thu hwnt."