Myfyriwr PhD Prifysgol Abertawe yn cipio’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Aneirin Karadog, sy’n astudio am radd Doethur mewn ysgrifennu creadigol Cymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, yw enillydd Cadair yr Eisteddfod eleni, ac fe’i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Gwener 5 Awst.

Eleni cyflwynwyd y Gadair am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl ‘Ffiniau’. Y beirniaid oedd Tudur Dylan Jones, Cathryn Charnell-White a Meirion MacIntyre Huws.

Denodd y gystadleuaeth naw ymgeisydd, ac roedd y tri beirniad yn agos at ei gilydd o ran trefn y naw yn y gystadleuaeth, ac wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan dywedodd Tudur Dylan Jones, “Tad Diymadferth? ydy’r ffugenw, efo marc cwestiwn ar y diwedd.”

“Cerdd agoriadol y dilyniant ydy ‘Gwyr a Aeth Catterick Barracks’. Tad sy’ ma yn gyrru’i fab mewn car i fod yn filwr. ‘Gyrru’i fab i gwr ei fedd/a’r gyrru’n ddidrugaredd.’ Mae’r tad yn erbyn hyn, ond y mab yn benderfynol o fod yn filwr. Mae’r tad yn gweld y darlun cyflawn, ac yn gweld mai rhyfel sy’n achosi’r rhan fwyaf o broblemau’r byd fel newyn a sefyllfa’r ffoaduriaid sy’n gorfod croesi môr i ddarganfod lloches. ‘Meistri creulon yw’r tonnau, a’r ewyn yn dynn ei gadwynau, a’r heli’n cloi’r hualau oer o ddŵr nad yw’n rhyddhau.’

“Rydym ni’n gweld safbwyntiau gwahanol yn y cerddi, y tad, y mab, y ceiswyr lloches, y gwleidyddion, ac mae ’na hefyd adlais bwriadol o awdl ‘Y Gwanwyn’ Dic Jones. Mae fferm yr Hendre yn ffinio efo Maes Awyr Aberporth, lle maen nhw’n ymarfer hedfan yr Adar Angau, sef y drôns sy’n cael eu defnyddio i ladd. Lle roedd Dic Jones yn gweld aderyn heddwch, Adar Rhyfel sydd uwchben yr Hendre erbyn hyn: ‘Y mae’n Glamai, ond nid mwyn golomen/a ddaw heibio’n fflio’n wyn ei phluen./Hebog llygadog sy’n hel llygoden/deryn a chwennych y drin a’i chynnen/a gwaed o’i big i’w aden; - troi’n ddi-hoe/a chonfoi ei sioe uwch henfaes awen.’

“Mae’r gerdd olaf, ‘Dros blant ein plant’ yn darlunio’r tad yn anobeithio fod ei fab yn gyfrifol am ladd pobl. Mae’n ei gweld hi’n anodd torri cylch dieflig rhyfel. Mae Tad Diymadferth? wedi rhoi llwyfan i rai o ofnau dyfnaf unrhyw riant. Maen nhw’n gerddi sy’n gwneud i ni feddwl. Maen nhw’n ein hannog ni i gyd i beidio â bod yn ddiymadferth.

Aneirin Karadog

 

  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn ogystal ag astudio ym Mhrifysgol Abertawe,  mae Aneirin hefyd yn gweithio fel bardd a darlledwr llawrydd. Fe’i ganed yn Llanrwst, ond treuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Mhontardawe cyn i’r teulu symud i ardal Pontypridd lle cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydfelen. Aeth ymlaen wedyn i raddio mewn Ffrangeg a Sbaeneg yn Y Coleg Newydd, Rhydychen. Taniwyd ei ddiddordeb mewn ieithoedd yn gynnar gan iddo gael ei fagu ar aelwyd amlieithog lle'r oedd ef a’i frawd yn siarad Cymraeg, Llydaweg a Ffrangeg.

Mae Aneirin wedi ennill amryw o wobrau am farddoni, gan gynnwys Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004, Cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 2005, a chystadleuaeth y delyneg yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro 2011. Fe enillodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas), y categori barddoniaeth yng Ngwobr Llyfr y Flwyddyn 2013 ac mae newydd gyhoeddi cyfrol newydd o gerddi, Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas).

Mae Aneirin yn talyrna gyda thîm Tir Iarll a thîm ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol, Y Deheubarth. Mae’n hynod o falch o fod wedi cael treulio dwy flynedd yn crwydro’r wlad fel Bardd Plant Cymru 2013-2015 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi i blant y llynedd, sef Agor Llenni’r Llygaid (Gomer). Bu’n wyneb cyfarwydd am bron i ddegawd ar raglenni teledu dyddiol Wedi 7 a Heno, ac ar raglenni Sam ar y Sgrîn ac Y Barf. Bu hefyd yn rapiwr gyda’r grwpiau Hip-hop, Y Diwygiad, Genod Droog a’r Datgyfodiad.

Mae’n byw bellach ym Mhontyberem gyda’i wraig, Laura, a’i ferch, Sisial, ac mae brawd neu chwaer fach i Sisial ar y ffordd. Mae’r dilyniant o gerddi ar gyfer y Gadair yn adwaith i ddau beth: bod yn dad i ferch bedair oed a darpar dad i fabi newydd, a’r flwyddyn gythryblus rydyn ni wedi ei phrofi yn fyd-eang o ran rhyfela a therfysgaeth; ac o weld rhethreg gwleidyddion yn mynd yn fwy eithafol, daw teimlad o fod yn ddiymadferth yn wyneb y grymoedd hyn. Arweinia hyn oll at boeni am y math o fyd y bydd ein plant yn ei etifeddu gennym.


Llun: Eisteddfod Genedlaethol/ Alun Llywelyn