Monitro wedi’i arwain gan nyrsys yn gwella gofal cleifion sy’n cymryd meddyginiaethau iechyd meddwl ar bresgripsiwn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae ymchwil newydd wedi canfod bod monitro meddyginiaethau dan arweiniad nyrsys yn gallu rhwystro sgil-effeithiau anffafriol difrifol meddyginiaethau a gaiff eu rhoi ar bresgripsiwn i bobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl a bod modd adnabod a thrin problemau iechyd na thynnwyd sylw atynt yn flaenorol, a allai achub bywydau a gwella ansawdd bywyd.

Canfu’r ymchwil a gyhoeddwyd yn Nursing Standard fod pobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl yn elwa pan oedd nyrsys yn monitro eu meddyginiaethau gan ddefnyddio Proffiliau a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe ac y gallai ymestyn monitro o’r fath i’r GIG elwa iechyd a lles cleifion. 

Adroddodd yr Athro Sue Jordan a Richard Jones yng Ngholeg y Gwyddorau  a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda  ar eu hastudiaeth yn ymwneud â phobl a gefnogir gartref gan dimau argyfwng iechyd meddwl.  Canfuont fod  monitro wedi’i lywio gan Broffiliau a’i arwain gan nyrsys yn helpu yn y broses gynharach o adnabod sgil-effeithiau difrifol a allai fygwth bywyd neu Adweithiau Anffafriol i Gyffuriau o ran meddyginiaethau iechyd meddwl, gan gynnwys problemau gyda’r galon a phoen abdomenol (pancreatitis).

Dros gyfnod o fis daeth y Proffiliau o hyd i broblemau a allai fygwth bywyd nas cofnodwyd o’r blaen mewn 2 allan o 20 o gleifion ynghyd ag anghenion nas diwallwyd yn yr holl gleifion. Hefyd canfuont fod angen:

  • cyfeirio tri chlaf at seiciatryddion ymgynghorol,
  • cyfeirio tri chlaf at ymarferwyr cyffredinol,
  • ECG brys ar un claf
  • cyfeirio un claf at ddeintydd
  • terfynu meddyginiaethau pedwar claf
  • ac amlygwyd materion hyrwyddo iechyd a gafodd eu hesgeuluso yn flaenorol yn yr holl gleifion.  

Bellach mae’r ymchwilwyr yn galw am gyflwyno Proffiliau monitro meddyginiaethau drwy gydol Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd.

Meddai’r Athro Sue Jordan a arweiniodd yr astudiaeth ac ymchwil gynharach mewn cartrefi gofal: “Yr ydym am i Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd fabwysiadu monitro meddyginiaethau. Yr hyn sydd o’r pwys mwyaf i ni yw pan ddefnyddiwyd ein Proffiliau, roedd llai o breswylwyr cartrefi preswyl yn profi poen a thawelyddu ac aethpwyd i’r afael â phroblemau â chydbwysedd, dryswch, anesmwythder, cyfog a bwyta. Mae ein Proffiliau monitro hefyd yn adnabod arwyddion cynnar problemau gyda’r galon ac maent yn caniatáu i nyrsys gydweithio’r â’r rhai sy’n rhoi presgripsiynau i gleifion er mwyn sicrhau’r dosys gorau o’r meddyginiaethau gorau i gleifion mewn iechyd meddwl cymunedol. Bydd ymestyn y monitro hwn i’r GIG o fudd amlwg i gleifion.”

Mae ymchwil flaenorol wedi canfod bod risg fwy y bydd pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd difrifol a pharhaol yn dioddef o glefydau corfforol megis strôc, diabetes a chlefyd coronaidd y galon ac mae eu disgwyliad oes yn is na’r boblogaeth gyffredinol. Mae ymchwil hefyd wedi canfod bod Adweithiau Anffafriol i Gyffuriau, neu ADRau, yn gyfrifol am 5-8% o dderbyniadau nas cynlluniwyd i’r ysbyty yn y DU ac maent yn costio’r GIG £1-2.5biliwn bob blwyddyn.  

Meddai’r Athro Jordan “Mae’n amlwg bod diffyg adroddiadau o ran canlyniadau ADRau cyffredin yn arwain at gostau diangen i bobl ac o safbwynt ariannol. Mae’r astudiaeth hon, ynghyd ag astudiaethau blaenorol, yn dangos er bod monitro meddyginiaethau dan arweiniad nyrsys yn faes lle mae diffyg ymchwil, mae’r monitro hwnnw wedi gwella canlyniadau cleifion a phe bai modd ei wneud yn rhan o ymarfer cyffredinol, byddai diogelwch cleifion yn cael ei wella.”