Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.
Bydd IP Cymru, menter cymorth busnes arobryn wedi’i lleoli yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe, yn lansio menter newydd i helpu BBaChau yng Nghymru i’w hamddiffyn eu hunain rhag seiberdroseddu.
Bydd IP Cymru, a sefydlwyd ym 2002 er mwyn helpu BBaChau yng Nghymru i fasnacheiddio eu heiddo deallusol, yn creu Menter Seiberdroseddu IP Cymru 2017-20 i ddarparu cymorth yn erbyn bygythiad cynyddol seiberdroseddu i BBaChau yng Nghymru.
Wrth siarad cyn ei gyflwyniad ym mhumed Gynhadledd Gwrth-ladrad Flynyddol MarkMonitor a gynhaliwyd yn BAFTA yn Llundain, meddai Andrew Beale OBE, Cyfarwyddwr IP Cymru ac Athro Cyswllt yng Ngholeg y Gyfraith a Throseddeg: “Tynnodd ein trafodaethau diweddar â Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd yn Genefa sylw at y ffaith bod BBaChau ymhlith y grwpiau mwyaf agored i seiberdroseddu, nesaf at blant a hen bobl. Er bod Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio i helpu’r ddau grŵp olaf, mae angen llenwi’r bwlch mewn gwybodaeth seiberdroseddu ymhlith BBaChau sy’n weithredol ym maes eiddo deallusol.”
Mae ymchwil1 IP Cymru a gynhaliwyd gan Jane Foulser-MacFarlane (Cwnsler Cyfreithiol Eiddo Deallusol Cynulliad Cenedlaethol Cymru) wedi datgelu bod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyffredinol gan BBaChau yng Nghymru o ran risgiau diogelwch digidol, megis diffyg ymwybyddiaeth o ran ymosodiadau ar wasanaethau, hacio cyfrifiaduron, dwyn hunaniaeth ac ymosodiadau gwe-rwydo.
Hefyd dangosodd yr ymchwil fod:-
- Dros 50% o BBaChau wedi dioddef ymosodiadau maleiswedd2
- 1 cwmni yn unig oedd yn neilltuo 10% neu fwy o’i gyllideb TG ar gyfer diogelwch TG
- Nid oedd dros 80% yn sganio e-byst staff ar gyfer gwybodaeth gyfrinachol ac nid oedd ganddynt unrhyw reolaeth ar ddefnyddio cofion bach USB
- Nid oedd 70% yn amgryptio manylion talu cwsmeriaid
- Nid oedd bron 40% yn amgryptio eu rhwydwaith di-wifr.
Er mwyn cynorthwyo wrth fynd i’r afael â’r broblem hon, bydd Menter Seiberdroseddu newydd IP Cymru yn cynnwys pedwar prif grŵp:
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Seiberdroseddu Eiddo Deallusol
- Seiberddiogelwch Eiddo Deallusol
- Materion Cydymffurfiaeth Cyfreithiol Eiddo Deallusol
- Materion gorfodi a phlismona eiddo deallusol
I ddechrau bydd IP Cymru’n canolbwyntio ar gynhyrchu canllaw seiberddiogelwch eiddo deallusol am ddim, yn rhan o ymgyrch i godi lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith BBaChau ynghylch y ffyrdd gorau o ddiogelu eu heiddo deallusol yn yr oes ddigidol.
Meddai’r Athro Beale: “Mae’r math hwn o gymorth mor bwysig ar gyfer busnesau bach, yn enwedig gan nad oes gan lawer ohonynt adran TG gynhenid, heb sôn am y gallu i dalu am ddiogelwch seiberddiogelwch drud fel llywodraethau a chorfforaethau mawr. BBaChau yng Nghymru yw sylfeini economi Cymru ac mae’n hollbwysig bod cymorth ar gael iddynt er mwyn diogelu eu hunain, eu cwsmeriaid a’u cyflenwyr rhag seiberdroseddwyr.
“Fel Athro Gwadd ym Mhrifysgol Normal Nanjing byddaf yn ymweld â Tsieina y mis nesaf i drafod cynlluniau ar gyfer Canolfan Seiberdroseddu Eiddo Deallusol Tsieina-Cymru newydd sy’n cynnig llawer o gyfleoedd cyffrous.”
- Dydd Mercher 12 Hydref 2016 17.02 BST
- Dydd Mawrth 10 Medi 2019 10.56 BST
- Swansea University