Gwyddonydd byd-enwog a chyn-fyfyriwr Abertawe yn derbyn Medal Frenhinol gan y Gymdeithas Frenhinol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, y gwyddonydd cemeg o fri, Syr John Meurig Thomas HonFREng FRS, wedi derbyn Medal Frenhinol 2016 y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer y Gwyddorau Ffisegol.

Dyma'r tro cyntaf i un o raddedigion Prifysgol Abertawe dderbyn yr anrhydedd hwn, a hynny mewn blwyddyn pan fydd Abertawe'n ailgyflwyno rhaglenni gradd cemeg ar ôl egwyl o 10 mlynedd. Mae'r Frenhines yn dyfarnu tair Medal Frenhinol - sydd hefyd yn cael eu galw'n Fedalau'r Frenhines - bob blwyddyn, yn dilyn argymhellion Cyngor y Gymdeithas, er mwyn cydnabod y cyfraniadau pwysicaf yn y gwyddorau ffisegol, biolegol a chymhwysol.

John Meurig ThomasDyfarnwyd y fedal i Syr John am ei waith arloesol ym maes cemeg gatalytig, yn enwedig ar gatalyddion heterogenaidd safle sengl, sydd wedi cael effaith sylweddol ar gemeg werdd, technoleg lân a chynaladwyedd. Cyflwynir medal arian gilt iddo ynghyd â rhodd o £10,000 yng nghinio'r Prif Wobrau yn ddiweddarach eleni.

‌Mae Syr John Meurig Thomas yn adnabyddus ledled y byd am ei waith ym maes gwyddor catalyddion a chemeg cyflwr solet. Mae cadwyn gynhyrchu llawer o ddeunyddiau a chemegau modern yn cynnwys catalyddion - sylweddau sy'n cyflymu adweithiau cemegol, ond sy'n defnyddio llai o ynni, heb dreulio eu hunain. Mae Syr John wedi arwain y ffordd wrth ddatblygu catalyddion 'gwyrdd' er mwyn i brosesau cemegol lygru llai a bod yn fwy effeithlon.

Arloesodd y defnydd o dechnolegau fel microsgopeg electronau a diffreithiant niwtronau i 'weld' sut mae nodweddion miniscwl ar arwyneb catalyddion yn effeithio ar adweithiau cemegol. Mae ganddo arbenigedd penodol mewn catalyddion heterogenaidd - rhai sydd mewn gwedd wahanol i'r cemegau sy'n adweithio, megis deunydd solet sy'n cataleiddio adweithiau hylifau.

Mae Syr John yn gyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Brenhinol, rôl a oedd yn ategu ei ddiddordeb brwd mewn poblogeiddio gwyddoniaeth. Ymhlith ei gyhoeddiadau niferus y mae bywgraffiadur o Michael Faraday, y gwyddonydd Prydeinig a wnaeth gyfraniadau pwysig at electromagneteg ac electrogemeg, ac sydd ymhlith y gwyddonwyr mwyaf dylanwadol erioed.

Bu Syr John yn Bennaeth yr Adran Cemeg Ffisegol, Prifysgol Caergrawnt, yn Gymrawd Proffesiynol Coleg y Brenin, Caergrawnt ac yn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Ffederal Cymru.

Mae wedi ennill nifer mawr o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys, eleni, y Fedal Aur am Ymchwil Rhagorol gan Brifysgol Fflorens. Ym 1991 cafodd Thomas ei urddo'n farchog 'am wasanaethau i gemeg ac am boblogeiddio gwyddoniaeth'.

Wrth longyfarch Syr John, meddai Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Steve Wilks, "Mae Syr John Meurig Thomas yn un o gyn-fyfyrwyr mwyaf nodedig y Brifysgol. Mae ei ymchwil ym maes cemeg i’w gymharu â gwaith y gwyddonwyr sydd wedi diffinio methodolegau modern mewn gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg, gan gynnwys Syr Michael Faraday (a oedd yn destun llyfr gan Syr John, The Genius of Man and Place); Sir Michael Francis Atiyah, un o fathemategwyr mwyaf blaenllaw’r byd, ac un o gyfoedion agos Syr John, a fydd yn darlithio yn y Brifysgol yr wythnos hon; a'r Athro Olgierd Zienkiewicz, arloeswr y dull elfen feidraidd mewn mecaneg strwythurol a dreuliodd ran helaeth o'i yrfa fel Pennaeth Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe, wrth gwrs."