Gwacáu Rhagolfaus ar Gampws Singleton

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r gwasanaethau brys yn delio â digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe. Nid oes unrhyw risg uniongyrchol i unrhyw un, ond mae nifer o adeiladau wedi cael eu gwacáu fel rhagofal.

Mae adolygiad o sylweddau cemegol sy’n cael eu storio yn y Brifysgol wedi canfod y gallai un o’r cemegion fod yn beryglus. Hysbyswyd y Gwasanaeth Tân ac Achub, a daethant i Gampws Parc Singleton.

Fel rhagofal, maent wedi cynghori y dylai adeiladau cyfagos cael eu gwacáu. Mae'r sylwedd yn cael ei symud a'i waredu’n ddiogel o dan arweiniad arbenigol.

Hyd nes bod y sylwedd wedi’i waredu, bydd rhai ardaloedd ar y campws yn parhau i fod ar gau. Mae hyn yn debygol o fod tan o leiaf 6pm heno.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.