Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo’r Haf yn dathlu llwyddiant myfyrwyr

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Caiff cyflawniadau tua 3,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe eu dathlu'r wythnos nesaf yng Nghynulliadau Graddio a Gwobrwyo’r Haf Prifysgol Abertawe a gynhelir bob blwyddyn.

Cynhelir y 21 Cynulliad o ddydd Llun, 18 Gorffennaf, tan ddydd Sadwrn, 23 Gorffennaf, yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae lle bydd myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig yn derbyn eu dyfarniadau.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cynulliadau cael eu cynnal yn y Neuadd Fawr, wedi iddi gael ei hagor yn swyddogol ddechrau'r flwyddyn.

Yn ymuno yn y dathliadau bydd teuluoedd a ffrindiau'r myfyrwyr, swyddogion y Brifysgol, staff academaidd, cynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr, swyddogion dinesig a phwysigion lleol.

Graduation

Yn derbyn eu graddau a'u dyfarniadau bydd:

  • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ddydd Llun
  • Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a’r Ysgol Feddygaeth ddydd Mawrth
  • Y Coleg Peirianneg ddydd Mercher
  • Y Coleg Peirianneg ddydd Iau
  • Yr Ysgol Reolaeth ddydd Gwener
  • Coleg y Gyfraith a Throseddeg ddydd Sadwrn

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Ein Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo yw'r achlysur hapusaf yn y flwyddyn academaidd.  Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau gorau i'n myfyrwyr sy'n graddio eleni a dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.

"Mae'r Cynulliadau hefyd yn rhoi cyfle i ni gydnabod y rôl bwysig sydd gan ffrindiau a theuluoedd ein myfyrwyr wrth eu cefnogi a'u hannog drwy gydol eu blynyddoedd o astudio - ac, yn bwysicaf oll, yn eu blwyddyn olaf o astudio, pan fydd eu hymdrechion a'u gwaith caled yn dwyn ffrwyth.

"Mae gennym hanes balch o baratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol eithriadol ers 1920. Gobeithio y bydd y graddedigion eleni'n gallu parhau i ymfalchïo ym Mhrifysgol Abertawe wrth i ni adeiladu ar lwyddiant aruthrol y blynyddoedd diwethaf."

 Am ragor o wybodaeth am ein Cynulliadau Graddio, cliciwch yma.