Creu Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 3 Tachwedd) y bydd rhwydwaith cenedlaethol newydd er rhagoriaeth mewn mathemateg yn cael ei greu i roi hwb i safonau mewn ysgolion yng Nghymru.

Datgelodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y bydd buddsoddiad ychwanegol o £800,000 yn cael ei roi i faes mathemateg. Caiff yr arian ei ddefnyddio hefyd i greu rhwydwaith sy’n golygu y bydd ysgolion, prifysgolion a’r consortia rhanbarthol yn cydweithio â’i gilydd.

Bydd y rhwydwaith yn darparu ffordd strwythurol o roi cefnogaeth ym maes mathemateg i blant o dair oed i 18 oed. A bydd y sefydliadau sy’n rhan o’r rhwydwaith yn gweithio ar y cyd i wella’r dull o ddysgu ac addysgu mathemateg a rhifedd mewn ysgolion a cholegau.

Dyma waith y rhwydwaith:

  • Rhoi cefnogaeth ychwanegol i ddatblygu arweinyddiaeth ym maes mathemateg gan helpu ysgolion i gydweithio er mwyn cynnal safonau uwch.
  • Rhoi cefnogaeth i athrawon, cynorthwywyr addysgu, darlithwyr addysg bellach ac eraill i ddatblygu arferion gwell yn yr ystafell ddosbarth.
  • Bydd ysgolion a cholegau yn cael canllawiau ac yn gallu mynd i ddigwyddiadau a chynadleddau ar arfer addysgu effeithiol.
  • Creu rhaglenni datblygu personol achrededig sy’n seiliedig ar dystiolaeth i staff er mwyn iddynt wella’u dealltwriaeth o fathemateg a’r dull o ddysgu ac addysgu mathemateg.
  • Bydd ysgolion yn cael gwybodaeth a chefnogaeth gan arbenigwyr, gan gynnwys gwybodaeth ar ddulliau o wella cyrhaeddiad sydd wedi ennill eu plwyf, ac adnoddau addysgu o ansawdd uchel.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae’n fwriad cenedlaethol gennym ni i ddiwygio addysg. Trwy gydweithio, byddwn ni’n sicrhau bod gan ein pobl ifanc gyfle cyfartal wrth iddyn nhw geisio cyrraedd y safonau uchaf posibl. Rhaid inni, yn awr, gydweithio er mwyn cael y pethau sylfaenol yn iawn, gan godi’r safonau a’r uchelgeisiau i sicrhau rhagoriaeth i bob disgybl, y rhieni, y myfyrwyr a’r athrawon fel ei gilydd.

“Sylfaen hyn i gyd yw sicrhau safonau uchel mewn mathemateg yn ein hysgolion a’n colegau. Bydd hynny’n helpu i leihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad ac yn gwneud yn siwr bod gan bob plentyn yng Nghymru gyfle i wireddu eu potensial yn llawn. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol newydd hwn yn ein helpu ni i gyflawni hynny.

“Mae ein perfformiad o ran cael y graddau uchaf mewn Mathemateg yng Nghymru yn arwydd o’r hyn y gallwn ni ei wneud. Bydd y rhwydwaith newydd yma’n hybu’r cydweithio rhwng ysgolion, y consortia addysg a phrifysgolion, a hynny er budd ein disgyblion. Bydd yn cynnig cefnogaeth ychwanegol, yn rhoi cyfleoedd newydd i athrawon ac yn ffordd o gael at yr ymchwil ddiweddaraf a chyngor arbenigol.

Dywedodd Dr Sofia Lyakhova, Uwch-ddarlithydd yn Adran Mathemateg, Coleg Gwyddoniaeth, Prifysgol Abertawe:

"Mae Abertawe a phrifysgolion eraill wedi bod yn cydweithio i roi cefnogaeth mewn mathemateg bellach ar gyfer cymhwyster Safon Uwch ers sawl blwyddyn. Rwy’n falch iawn bod y llywodraeth yn ehangu’r gefnogaeth honno fel ei bod ar gael ledled Cymru.

“Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth yn hanfodol os ydyn ni am gynyddu’r gefnogaeth i bob athro mathemateg – o’r rhai sy’n addysgu plant teirblwydd i’r rhai hynny sy’n addysgu myfyrwyr Safon Uwch. Dyma ddatblygiad arloesol a chynhyrfus, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio’n uniongyrchol â’r consortia addysg, prifysgolion eraill ac athrawon yn y maes hanfodol hwn.”