Chwaraeon a hunaniaeth: cynhadledd yn Abertawe yn archwilio pam bod chwaraeon yn fwy na gêm

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ddydd Iau, 14 Ebrill, bydd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn cynnal ei chynhadledd undydd, Gwlad, Gwlad: Chwaraeon, Mwy na Gêm, yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Campws Parc Singleton.

Mae gwesteion y gynhadledd yn cynnwys Laura McAllister o Chwaraeon Cymru, a fydd yn cadeirio'r digwyddiad; Keith Wood, W2 Consulting, darlledwr a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Iwerddon, a fydd yn arwain trafodaeth panel ar The Irish and Scottish Experience; a rheolwr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Chris Coleman, a fydd yn trafod The FAW and the Euros 2016: Engaging With the Nation.

Map o Gymru Bydd cynrychiolwyr o Glwb Pêl-droed Barselona; Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe; Clwb Rygbi Munster; y Gymdeithas Campau Gaelaidd (GAA); Cymdeithas Bêl-droed yr Alban; Cynghrair Denmarc; Mari Stevens, Cyfarwyddwr Marchnata Croeso Cymru; Mal Pope, cerddor, darlledwr a chyd-gynhyrchydd gweithredol Jack to a King; a Julian Jenkins, sylfaenwr Fanalyse, ymhlith y bobl a fydd yn cyfrannu at sesiynau'r gynhadledd – gan greu digwyddiad unigryw i Gymru yn ei Blwyddyn Antur yn 2016.

Mae'r gynhadledd, a gynhelir rhwng 9am a 4.30pm, yn agored i bawb, yn rhad ac am ddim. Derbynnir rhoddion Sport Relief 2016 ar y diwrnod. Anogir hefyd i gynrychiolwyr wisgo lliwiau eu tîm neu wlad (crys, sgarff etc.)

Mae rhaglen lawn y gynhadledd (adeg cyhoeddi - sylwer, gallai newid oherwydd i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y trefnwyr, megis salwch etc.) ar gael yma.

Meddai un o'r academyddion sy'n arwain y gynhadledd, Dr Alan Sandry o Sefydliad Hunaniaethau Ewrop Prifysgol Abertawe, “Themâu allweddol y gynhadledd yw chwaraeon a hunaniaeth; gan ddathlu'r hyn a olyga chwaraeon i ni. Trwy astudiaethau achos a thrafodaethau panel, bydd y gynhadledd yn archwilio ac yn trafod y berthynas rhwng chwaraeon, timau chwaraeon a'r stadia 'fields of dreams' sy'n gartref i'r timau hyn â hunaniaeth, brandio, a safle eu dinas, rhanbarth a gwlad gartref.

“Bydd hefyd yn cydnabod bod chwaraeon, yn enwedig timau chwaraeon, yn ddim byd heb gyfranogiad ac ymroddiad llwyr eu cefnogwyr; y rhai sy'n talu'r bil, rhag inni anghofio!

“Mae teitl y gynhadledd, 'Gwlad, Gwlad', yn llinell o Hen Wlad Fy Nhadau, anthem genedlaethol Cymru. Gyda'r llinell nesaf, "Pleidiol wyf i’m gwlad", mae'r canwr yn datgan ei ffyddlondeb i'w wlad. Mae'r ffyddlondeb hwn, yn gyhoeddus, yn sylfaenol i'r syniad o gynrychiolaeth genedlaethol; uchafbwynt hunaniaeth, gellid dadlau.

“I'r un graddau, fodd bynnag, ar raddfa fwy lleol, rydym hefyd yn gweld cyfranogwyr a chefnogwyr yn dangos cefnogaeth 'ffanatigaidd' i dîm eu pentref, tref, dinas neu ranbarth, a'u hunaniaethau priodol. Gan hynny, gallwn olrhain effaith amlhaenog.

“Gyda hyn yn gefndir, mae rhai cwestiynau allweddol yn codi am gyflyrau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd pob un ohonom fel gweithredwyr ac ymarferwyr chwaraeon: sut allwn feithrin a chynnal y perthnasoedd chwaraeon a chymunedol sy'n dod â ni'n agosach at ein gilydd?

“Bydd y gynhadledd Gwlad, Gwlad: Chwaraeon, Mwy na Gêm yn cynnig llwyfan ar gyfer trafodaethau, sgyrsiau a rhwydweithio. Byddwn oll yn dysgu ychydig am ein hoff chwaraeon, ac yn dysgu ffeithiau diddorol neu'n clywed barnau pendant am chwaraeon llai adnabyddus.”

Trefnir y gynhadledd Gwlad, Gwlad: Sport, More Than a Game gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Sefydliad Hunaniaethau Ewrop y Brifysgol, Dynamic Destinations, Populous Architects, W2 Consulting ac Edwards Holidays.

Gellir archebu tocynnau i'r gynhadledd am ddim drwy Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau Taliesin drwy ffonio 01792 602060. Fel arall, gallwch gadw lle ar-lein.

Dysgwch fwy am yr Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.