Car Uwchsonig BLOODHOUND - yr ymgais gyntaf i dorri'r record: Hydref 2017

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar 15 Hydref 1997, torrodd Andy Green y mur sain yn y Car Uwchsonig, Thrust, gan osod record cyflymder y byd newydd o 763.035 mya (1277.98 cilomedr yr awr). Ugain mlynedd wedi hynny, does neb wedi herio'r record honno.

Ym mis Hydref 2017, bydd y tîm y tu ôl i'r Car Uwchsonig, BOODHOUND, yn ceisio newid hynny a heddiw, cyhoeddwyd yn ffurfiol ei fod wedi dechrau paratoi ar gyfer ei ymgais gyntaf i dorri record y byd am gyflymder ar dir.

Yn ogystal â bod yn un o noddwyr cyntaf BLOODHOUND SSC, mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl hollbwysig yn llwyddiant y prosiect hyd yn hyn, gan ddarparu technoleg allweddol ers y diwrnod cyntaf yn nyddiau cynnar y cysyniad yn ôl yn 2007.

Prif gyfraniad y Brifysgol at Brosiect Car Uwchsonig BLOODHOUND fu ei harbenigedd ym maes ymchwil Deinameg Hylifau Gyfrifiadurol (CFD), a bu  ymchwilwyr o'r Coleg Peirianneg yn gweithio fel rhan o dîm dylunio aerodynameg y car uwchsonig.

Roedd y car a gafodd ganmoliaeth helaeth ym mis Medi 2015 yn 'fodel treial', a adeiladwyd heb hylifau, yn rhannol er mwyn gweld sut byddai dros 3500 o gydrannau pwrpasol yn ffitio i'w gilydd. Mae'n gyffredin i wneuthurwyr modur confensiynol adeiladu cannoedd o brototeipiau cyn cynhyrchu i fireinio'r manylion. Gan mai un Car Uwchsonig BLOODHOUND yn unig gaiff ei gynhyrchu, achubodd y prosiect ar y cyfle hwn i gadarnhau bod y bracedi yn y lle cywir, bod cydrannau allweddol yn hygyrch ar gyfer gwasanaethu a bod rhannau unigol wedi'u cynhyrchu i'r goddefiannau cywir.

Bellach, bydd y tîm yn tynnu'r cerbyd llifliniog 13.5m o hyd yn ddarnau, gan gofnodi'r broses yn fanwl er mwyn creu llawlyfr defnyddiwr BLOODHOUND. Bydd canllaw darluniadol manwlgywir yn adnodd hanfodol o feddwl y gallai peirianwyr, rywbryd yn y  dyfodol, fod yn gweithio ar gar rasio mwyaf cymhleth y byd am 2am yn anialdir y Calahari.

Lle bo angen, caiff addasiadau eu gwneud a rhannau newydd eu creu cyn ailadeiladu BLOODHOUND SSC a'i symud i Erodrom Newquay ar gyfer profion 'clymu i lawr' gyda'i jet EJ200 a'i system rocedi Nammo yn eu lle.

Mae jet Rolls-Royce yn gydran brofedig a ddefnyddiwyd i ddatblygu peiriannau cynhyrchu'r Eurofighter Typhoon. Fodd bynnag, mae dyluniad y roced yn newydd a bydd angen rhagor o waith cyn y gall peirianwyr ei chymeradwyo i'w defnyddio yn y car.

Bydd BLOODHOUND SSC yn teithio o dan ei bŵer ei hun am y tro cyntaf yn Newquay ym mis Mehefin 2017, mewn taith arbrofol cyflymder isel (tua 220 mya/345 cilomedr yr awr). Bydd hyn yn gyfle hefyd i'r tîm ymarfer ffrydio data a lluniau'n fyw o'r car - agwedd allweddol ar genhadaeth BLOODHOUND i rannu'r antur â chynulleidfa fyd-eang.

Dr Ben Evans - BLOODHOUND SSC ‌‌Dr Ben Evans gyda BLOODHOUND SSC

Erbyn hyn, bydd timau ymateb cyflym a gwasanaethu'r prosiect wedi derbyn hyfforddiant helaeth yn barod i roi cymorth ar gyflymder uchel yn Ne Affrica. Bydd hyn yn cynnwys ymarfer ar gyfer y 'pit stop mwyaf uffernol': cyfnod 40 munud dwys rhwng profion amseredig pan gaiff y car ei wirio, ei ail-lenwi â thanwydd a'i baratoi ar gyfer ail hanner y prawf.

Mae'r 'ras o fewn ras' hon yn elfen hanfodol o osod record: Ym 1997, methodd y tîm yn ei uchelgais oherwydd oedi o ychydig eiliadau'n unig.

Ar ôl cwblhau'r daith arbrofol yn llwyddiannus, caiff BLOODHOUND SSC ei lwytho ar Boeing 747 CargoLogicAir i'w gludo i Upington, De Affrica. Wedyn caiff ei gludo ar y ffordd i ganolfan y tîm yn yr anialdir, Hakskeen Pan. Dan arweiniad Martyn Davies, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, bydd 16 cynhwysydd llawn cyfarpar eisoes wedi'u cludo yno ymlaen llaw a bydd pentref hunangynhwysol â gweithdy a stiwdios teledu wedi'i adeiladu.

Meddai Dr Ben Evans, Uwch-ddarlithydd Peirianneg Awyrofod ac aelod o dîm dylunio BLOODHOUND SSC, "Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn am ddatblygu BLOODHOUND SSC yn nodi carreg filltir arall ar gyfer y prosiect. Bydd yr ymgais gyntaf i dorri'r record a theithio ar 800 mya yn gam enfawr arall at wireddu amcan terfynol y prosiect, sef cyflawni Record Cyflymder ar Dir o 1,000 mya.  Ar ôl saith mlynedd o waith dylunio a blwyddyn i gwblhau adeiladu'r car, dyma ein cyfle i wireddu'r breuddwyd!

"Yn y Coleg Peirianneg yn Abertawe, rydym wedi bod yn gweithio'n agos  gyda pheirianwyr BLOODHOUND, Rolls-Royce a Rolex wrth ddylunio'r cerbyd a 2017 fydd cam mwyaf cyffrous y prosiect i ni yn Abertawe, pan gawn gyfle i weld pa mor gywir fu ein galluoedd o'r radd flaenaf ym maes modelu CFD wrth ragfynegi perfformiad aerodynameg y car.

"Rwy'n hynod falch o gyfraniad y Brifysgol at ddatblygu prosiect BLOODHOUND, a dwi'n edrych ymlaen yn barod at y flwyddyn nesaf pan mai BLOODHOUND, heb amheuaeth, fydd car enwocaf y byd."