Beth fydd Brexit yn ei olygu i Gymru? Cynhadledd yn Abertawe am adael yr Undeb Ewropeaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal cynhadledd academaidd am oblygiadau Brexit ar gyfer Cymru yn ddiweddarach.

Brexit imageMae'r gynhadledd undydd, a gynhelir ddydd Gwener, 25 Tachwedd, yn cael ei threfnu gan Academi Morgan, Ysgol Reolaeth a Choleg y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol. 

Bydd y digwyddiad, a gynhelir yn Atriwm yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae, yn croesawu prif siaradwyr gan gynnwys David Jones, Gweinidog Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn trafod 'Beth yw Brexit? Safbwynt Llywodraeth y DU’.

Mewn ymateb, bydd sesiwn holi ac ateb gyda phanel a fydd yn cynnwys Eluned Morgan, cyn ASE sydd bellach yn AC Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru; Adam Price, cyn AS sydd bellach yn AC Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; Mark Reckless, AC Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) dros Ddwyrain De Cymru.  Cadeirydd y sesiwn fydd Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru.

Bydd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru ac Arweinydd yr Wrthblaid, yn trafod 'Lle Cymru yn Ewrop wedi Brexit: Pa fath o setliad ydyn ni eisiau?’.  Bydd yr Athro Elwen Evans CF, Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe, yn eu holi ynghylch lle Cymru mewn byd wedi Brexit a'u syniadau o Ewropeaeth yn y cyd-destun newydd hwn.

Bydd trafodaeth bwrdd crwn am fusnes a masnach wedi Brexit a gyflwynir gan yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Yn y gadair fydd Dr Carol Bell, cyn Gyfarwyddwr Rheoli Grŵp Olew a Nwy Byd-eang Banc Chase Manhatten a bydd y sesiwn yn cynnwys cynrychiolwyr GE Electrics, Maes Awyr Heathrow Llundain ac Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.

Yn sesiwn olaf y dydd, 'Golwg ar Brexit o'r tu allan: Gwirioneddau anghyfleus: y llwybr troellog i ddatod cysylltiadau â'r UE', bydd Caroline Morgan, uwch ddadansoddwr polisi yn Swyddfa'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, yn amlinellu cymhlethdodau cyfreithiol a gwleidyddol Brexit.

Wedyn bydd yr Athro Iwan Davies, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn cadeirio panel a fydd yn cynnwys Marlies Hoecherl, Capital Law, a Dr Hywel Ceri Jones, cyn Gyfarwyddwr Addysg a Hyfforddiant yr UE.

Meddai trefnydd y gynhadledd, yr Athro Mike Sullivan, Is-lywydd Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Gweithredol Academi Morgan, "Mae'n bleser gennym lansio Academi Morgan gyda chynhadledd amserol sy'n mynd i'r afael ag un o'r materion cyfoes pwysicaf.

"Mae Academi Morgan, a enwyd ar ôl Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru sydd bellach yn Ganghellor Prifysgol Abertawe, yn sefydliad amlddisgyblaethol ac amlbwrpas y mae ei weithgareddau'n cynnwys ymchwil, dadansoddi polisïau, ymgynghori, lledaenu gwybodaeth a hyfforddiant. Ei genhadaeth yw mynd i'r afael â'r problemau mawr neu'r 'materion astrus' sy'n wynebu polisi cyhoeddus yr unfed ganrif ar hugain, boed y rheiny'n faterion gwyddonol, technolegol, economaidd neu gymdeithasol.”