Astudiaeth newydd yn datgelu cynnydd o 28% mewn presgripsiynau ar gyfer gwrthiselyddion ymhlith pobl ifanc 6-18 oed

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gwelwyd cynnydd o 28% mewn presgripsiynau ar gyfer gwrthiselyddion i blant a phobl ifanc yn y degawd diwethaf, er bod cofnodion o ddiagnosis o iselder ysbryd wedi gostwng yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Tablets Mae gan un o bob 10 plentyn a pherson ifanc ryw fath o broblem iechyd meddwl, gan gynnwys iselder ysbryd a gorbryder. Mae pryderon ynghylch diffyg diagnosis a diffyg triniaeth yn cyferbynnu â phryderon ynghylch bod yn rhy barod i ysgrifennu presgripsiynau a throi anhapusrwydd pobl ifanc yn gyflwr meddygol.

Cynhaliwyd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn Psychological Medicine, gan dîm a oedd yn cynnwys sawl arbenigwr o Brifysgol Abertawe dan arweiniad Ann John, Athro Cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sydd hefyd yn feddyg teulu cymwysedig. Astudiodd y tîm ddata o 358,000 o gleifion cofrestredig rhwng 6 a 18 oed a oedd yn byw yng Nghymru rhwng 2002 a 2013. Darparwyd y data gan feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill y GIG.

Dyma rai o ganfyddiadau'r ymchwil:

  • Gwelwyd cynnydd sylweddol o 28% mewn presgripsiynau ar gyfer gwrthiselyddion, ymhlith y glasoed hŷn yn bennaf.
  • Gwelwyd gostyngiad cyson o ychydig dros chwarter mewn achosion o ddiagnosis iselder ysbryd, er bod symptomau iselder ysbryd wedi mwy na dyblu.
  • Darperir presgripsiynau heb drwydded ar gyfer citalopram, y tu allan i'r canllawiau cyfredol, er gwaethaf y ffaith hysbys bod gorddos o'r cyffur hwn yn wenwynol.
  • Roedd ychydig dros hanner y presgripsiynau newydd ar gyfer gwrthiselyddion yn gysylltiedig ag iselder ysbryd. Roedd y gweddill yn gysylltiedig â diagnosisau pethau megis pryder a phoen.

O ganlyniad i'r canfyddiadau, mae'r ymchwilwyr wedi galw am strategaethau newydd i weithredu'r arweiniad cyfredol ar gyfer rheoli iselder ysbryd ymhlith plant a phobl ifanc.

Meddai Dr Ann John, Athro Cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: 

"Mae'r canfyddiadau hyn yn ychwanegu at y drafodaeth gynyddol ynghylch y cynnydd mewn presgripsiynau ar gyfer gwrthiselyddion i blant a phobl ifanc.

Y prif gwestiwn yw a oes rhesymau dilys dros ddarparu'r cyffuriau hyn. Mae'n bosib bod y cynnydd mewn presgripsiynau'n adlewyrchu cynnydd go iawn mewn achosion iselder ysbryd a'i symptomau, neu gynnydd o ran ymwybyddiaeth a thriniaeth well gan feddygon teulu; ond gall fod yn arwydd o ddiffyg mynediad i therapïau seicolegol a gofal arbenigol neu hyd yn oed cynnydd mewn galwadau am gymorth. 

Beth bynnag yw'r eglurhad, mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar bob person ifanc unigol ac yn sicrhau ei fod yn cael y math cywir o gymorth am ei broblem. Mae angen i ni gefnogi'r rhai sy'n cefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd, gan eu helpu i weithredu yn unol â'r arweiniad cyfredol." 

Tanlinellodd Dr John bwysigrwydd ymateb yn briodol i anghenion pobl ifanc:

"Mae'r arddegau'n gyfnod o ennill annibyniaeth, ymwneud â'r byd a herio ffiniau. Gall hyn achosi teimladau sydd o fewn yr ystod ddatblygiadol normal o ymatebion emosiynol - straen, unigrwydd, tristwch a rhwystredigaeth. I eraill, mae'r effeithiau iechyd meddwl yn fwy difrifol ac, yn hanesyddol, yn aml nid ydynt yn cael eu hadnabod, eu trafod neu eu trin.

Gall pobl ifanc yn eu harddegau symud i oedolaeth heb lawer o'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ymdopi â'r materion hyn os nad ydynt yn eu rheoli'n dda yn gynnar.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng cyffro emosiynol a'r hyn sy'n gofyn am ddiagnosis iechyd meddwl mewn person ifanc.

Mae angen i ni sicrhau bod meddygon teulu wedi'u hyfforddi i wirioneddol ddeall bywydau a hwyliau pobl ifanc, yn ogystal ag adnabod yr arwyddion rhybudd. I rai pobl ifanc, gall fod yn briodol eu sicrhau bod eu teimladau yn gyson â phrofiad dynol normal. I eraill, efallai mai therapïau siarad fyddai'r opsiwn gorau oherwydd bod tystiolaeth yn dangos y gallant wella symptomau iselder meddwl ysgafn i gymedrol.

Mewn achosion mwy difrifol, dylid defnyddio gwrthiselyddion ar y cyd â therapïau siarad. Mae'n bwysig iawn gwella mynediad i therapïau siarad. Fel arall, os yw'r amserau aros yn rhy hir, mae'n fwy tebygol y darperir presgripsiwn. Os oes angen gwrthiselydd, dylid rhoi fluoxeteine fel yr opsiwn cyntaf."